Yn y ddwy enghraifft yna, mi faswn i'n deud "Partneriaeth Respect" am fod
Respect yn enw priod, ond "y Sefydliad Astudiaethau Polisi" am nad ydi
astudiaethau polisi'n enw priod.
Cwpan y Byd nid y Cwpan Byd, er enghraifft.
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 04, 2008 11:13 PM
Subject: y fannod o flaen enw sefydliad
Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod
wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn
gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect'
ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad
Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu
defnyddio.
A oes angen y fannod, ynteu ydi ots?
dafydd
|