Ie - fysa fo ddim yn gwneud mwy o synnwyr dweud 'di-waith' am 'unemployed' a
'di-gyflog' am 'workless' felly?
----- Original Message -----
From: "Jane Owen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 15, 2008 10:31 AM
Subject: Re: ATB: workless
>
>
> Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a
> drosglwyddir gydag o wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y
> cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
> gamgymeriad, hysbyswch yr anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda.
>
> Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod
> ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych. Serch
> hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych
> ddatgelu'r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan ddarpariaethau
> deddfwriaethol.
>
> The information contained in this e-mail message and any files transmitted
> with it is intended solely for the use of the individual or entity to whom
> they are addressed. If you have received this e-mail in error please
> notify the sender immediately.
>
> The contents of this e-mail represents the views of the individual(s)
> named above and do not necessarily represent the views of Denbighshire
> County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council may
> be required to disclose this e-mail [or any response to it] under
> legislative provisions.
>
>
>
>
--------------------------------------------------------------------------------
>
> gweithio ..... mae llawer o bobl yn gweithio'n galed yn gofalu am y
> cartref
> / plant / henoed ond yn ddigyflog
>
> yn dilyn newid yn yr amgylchiadau uchod gallant fod yn ddi waith ac yn ddi
> gyflog …..
>
> Jane Jones Owen
> Cyfieithydd y Sir / County Translator
> 01824 70 8115
> [log in to unmask]
> [log in to unmask]
>
>
>
>
> Carolyn Iorwerth
> <carolyn.iorwerth
> @BTINTERNET.COM> To
> Sent by: [log in to unmask]
> Discussion of cc
> Welsh language
> technical Subject
> terminology and ATB: workless
> vocabulary
> <WELSH-TERMAU-CYM
> [log in to unmask]
> UK>
>
>
> 15/07/2008 10:18
>
>
> Please respond to
> Discussion of
> Welsh language
> technical
> terminology and
> vocabulary
> <WELSH-TERMAU-CYM
> [log in to unmask]
> UK>
>
>
>
>
>
>
> Tybed fasa modd cael rhywbeth hollol wahanol i egluro'r gwahaniaeth? I fi,
> does dim gwahaniaeth rhwng bod yn ddi-waith a bod heb waith o ran ystyr y
> geiriau. Mae'r un peth yn wir i raddau helaeth am unemployed a workless.
> Bosib y dylen ni feddwl am rywbeth sy'n
> Cyfleu'r gwahaniaeth yn iawn. Ydw i'n iawn bod 'workless' yn golygu pawb
> sydd yn ddi-waith am ba reswsm bynnag, a bod 'unemployed' yn golygu'r bobl
> sy'n cael eu hystyried yn ddi-waith gan yr ILO?
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
> Lovgreen
> Anfonwyd/Sent: 15 Gorffennaf 2008 09:12
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: workless
>
> Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni newid y ffaith mai 'di-waith' =
> 'unemployed'
>
> bellach, felly mae ateb Claire - 'di-waith' a 'heb waith' yn well yn fy
> marn
> i.
>
> ----- Original Message -----
> From: "Carolyn Iorwerth" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, July 15, 2008 10:08 AM
> Subject: ATB: workless
>
>
> Da di'r cylch trafod! Wnes i erioed sylweddoli bod gwahaniaeth rhwng y
> ddau.
> Wedi bod yn defnyddo di-waith yn braf am 'workless' ers tro cyn imi gael
> fy
> ngoleuo Y broblem hyd y gwela'i yw na fyddai'r rhain fwyaf o bobl yn
> gwahaniaethu mewn sgwrs bob dydd - nac yn Saesneg nac yn Gymraeg - h.y.
> Unemployed a di-waith gaiff eu defnyddio i gyfeirio at yr holl bobl y
> sonnir
> amdanyn nhw yn y categorïau hyn. Chlywais i erioed neb ar strydoedd
> Caernarfon yn dweud eu bod yn econmaidd anweithgar er enghraifft (nac yn
> economically inactive o ran hynny), felly bosib mai dim ond yn y
> cyd-destun
> gwleidyddol/technegol y mae angen gwahaniaethu - sef pan gyfeirir at
> 'workless' ac 'unemployed' yn yr un darn? Wedyn, faswn i'n meddwl bod
> di-waith am workless a di-gyflog am unemployed yn gynnig da.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
> Anfonwyd/Sent: 15 Gorffennaf 2008 08:58
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: workless
>
> Mae Garmon yn hollol gywir. Gweler hefyd:
>
>
> http://www.regeneration-solutions.com/tackling-worklessness-and-unemployment
>
> .htm
>
> Ond tydi hyn ddim yn datrys y broblem o ran bathu term Cymraeg i
> wahaniaethu
> rhyngddynt. Yn y gorffennol, yn gam neu'n gymwys, dw i wedi defnyddio
> 'diweithdra' am unemployment ac 'anweithedd' am worklessness ond wn i ddim
> beth fyddai 'workless' wedyn!
>
> Rhian
> Canolfan Iechyd Cymru
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies
> Sent: 15 July 2008 09:52
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB: workless
>
> Oes - dwi'n meddwl mai dyma'r gwahaniaeth:
>
> "Unemployed" - pobl nad ydynt yn gweithio ac sydd, yn ôl diffiniad yr ILO
> (1) yn dymuno cael gwaith (2) ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos
> nesaf a (3) wedi bod yn ceisio gwaith am 4 wythnos
>
> "workless" - pobl nad ydynt yn gweithio ac nad ydynt yn cwrdd ag un neu
> fwy
> o'r tri maen prawf uchod i gael eu cyfrif yn "unemployed" yn ôl diffiniad
> yr
> ILO. Mae "workless" felly'n cynnwys pobl ddi-waith ("unemployed") a phobl
> sy'n economaidd anweithgar.
>
> Garmon
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
> Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
> Anfonwyd/Sent: 15 July 2008 09:29
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: workless
>
> Hyd y gwela i ar y we, "di-waith" sy'n cael ei ddefnyddio yn nogfennau'r
> Cynulliad am "workless". A oes gwahaniaeth rhwng "workless" ac
> "unemployed"?
>
> Diolch
> Siân
>
|