Ges i hwn dipyn yn ôl Sian, a dw i'n meddwl mai'r ystyr yw 'uwchben lefel
chwyddiant sy'n cael ei bennu gan y mynegai' sef, am wn i, bod y bobl sy'n
cael y budd-dal yn cael cynnydd sy'n cyfateb i chwyddiant ac wedyn £50 ar
ben hynny? Doeddwn i ddim yn rhy siwr ar y pryd ac fe benderfynais
ddefnyddio 'uwchben y mynegai'er mwyn osgoi bod yn rhy bendant.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2008 15:36
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: above indexation
Y frawddeg yw "increasing the child element of the Child Tax Credit by £50 a
year above indexation"
Diolch am bob cymorth.
Siân
|