'Sgrifennodd Claire Richards:
> Ym maes cyfrifiadureg.
Dyw 'spybot' ddim yn enw cyffredinol - mae'n enw penodol ar gyfer
teulu o firyau, ac ar gyfer meddalwedd sy'n sganio cyfrifiadur am
bob math o bethau drwg. Felly mi fyddai angen bod yn fwy penodol.
Mae 'spambot' yn enw cyffredinol ar gyfer meddalwedd awtomatig neu
bot sy'n chwilio am gyfeiriadau. Does dim wir angen cyfieithu robot
na 'bot' ond mi fyddai'n bosib defnyddio 'crwydrydd'.
Wrth gwrs nid crwydro am sbam y mae e ond yn chwilio am gyfeiriadau
e-bost neu ffurflenni cyswllt. Beth am 'crwydrwydd sbamio' (neu
'bot sbamio').
|