Oes modd i ni ddechrau 'anghyflogedig' neu 'ddigyflog' am 'unemployed' ('cyflogaeth' yw 'employment' hyd y gwelaf i), er bod y gair 'di-waith' wedi hen ennill ei blwy?
Fel arall, oes modd defnyddio 'di-waith' am 'unemployed' a 'heb waith' am 'workless'?
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 15 July 2008 09:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: workless[Spam score: 8%][Scanned]
Mae Garmon yn hollol gywir. Gweler hefyd:
http://www.regeneration-solutions.com/tackling-worklessness-and-unemployment.htm
Ond tydi hyn ddim yn datrys y broblem o ran bathu term Cymraeg i wahaniaethu rhyngddynt. Yn y gorffennol, yn gam neu'n gymwys, dw i wedi defnyddio 'diweithdra' am unemployment ac 'anweithedd' am worklessness ond wn i ddim beth fyddai 'workless' wedyn!
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies
Sent: 15 July 2008 09:52
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: workless
Oes - dwi'n meddwl mai dyma'r gwahaniaeth:
"Unemployed" - pobl nad ydynt yn gweithio ac sydd, yn ôl diffiniad yr ILO
(1) yn dymuno cael gwaith (2) ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf a (3) wedi bod yn ceisio gwaith am 4 wythnos
"workless" - pobl nad ydynt yn gweithio ac nad ydynt yn cwrdd ag un neu fwy o'r tri maen prawf uchod i gael eu cyfrif yn "unemployed" yn ôl diffiniad yr ILO. Mae "workless" felly'n cynnwys pobl ddi-waith ("unemployed") a phobl sy'n economaidd anweithgar.
Garmon
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 15 July 2008 09:29
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: workless
Hyd y gwela i ar y we, "di-waith" sy'n cael ei ddefnyddio yn nogfennau'r Cynulliad am "workless". A oes gwahaniaeth rhwng "workless" ac "unemployed"?
Diolch
Siân
|