In the context of computing and software, a Trojan horse, also known as a
trojan, is a piece of malware which appears to perform a certain action but
in fact performs another such as transmitting a computer virus. Contrary to
popular belief, this action, usually encoded in a hidden payload, may or may
not be actually malicious, but Trojan horses are notorious today for their
use in the installation of backdoor programs. Simply put, a Trojan horse is
not a computer virus. Unlike such malware, it does not propagate by
self-replication but relies heavily on the exploitation of an end-user (see
Social engineering). It is instead a categorical attribute which can
encompass many different forms of codes. Therefore, a computer worm or virus
may be a Trojan horse. The term is derived from the classical story of the
Trojan Horse.
Gan fod brys a dim cytundeb ynghylch yr *enw*, beth am ddefnyddio
*disgrifiad* yn lle enw, e.e. mae rhywun sy'n cario haint yn
"cludwr/cariwr", felly byddai "cludwyr ymosodiadau cudd" yn bosibl. Mae
TermCymru yn rhoi "meddalwedd faleisus" ar gyfer "malware", felly gellid
dweud "meddalwedd sy'n cludo ymosodiadau cudd". Chwi gyfrifiadurwyr fydd yn
gwybod a yw'r disgrifiadau hyn yn ddilys, ond os gellir dewis un, fydd ddim
cymaint o ots os nad ydych chi'n defnyddio'r union air a ddaw i boblogrwydd
wedyn, achos mi fydd y disgrifiad yn berthnasol o hyd.
Ann.
----- Original Message -----
From: "Claire Richards" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 07, 2008 2:08 PM
Subject: Re: ATB: Trojan horse[Spam score: 8%][Scanned]
Wel, mae'n rhaid i mi roi rhywbeth! Dwi'n cyfieithu Telerau ac Amodau
gwefan, lle ceir sôn am "computer viruses", "Trojan horses" a "worms".
(Sylwer mai'r enw llawn sydd yn y Saesneg).
Dwi wedi defnyddio "firysau" a "mwydod" am y cyntaf a'r trydydd, am mai dyna
sydd yn y Gronfa Genedlaethol o Dermau. Trosiadol yw'r ddau, ynte? Nid
firws fel annwyd na mwydyn fel pry genwair sydd gennym ni fan hyn.
Os yw pobl yn deall "firysau" a "mwydod", pam na fyddan nhw'n deall
"ceffylau Caerdroea", sydd hefyd yn drosiadol? Neu oes yn rhaid i mi roi
"Trojans"?
Claire
O.N. "Firysau Cyfrifiadurol, Mwydod a Cheffylau Caerdroea" a geir yn
Nhelerau ac Amodau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 07 July 2008 13:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Trojan horse[Spam score: 8%][Scanned]
'sgrifennodd Carolyn Iorwerth,
> Heblaw am bobl sy'n ymhel â chyfrifiaduron o hyd fyddai fawr neb yn gwybod
> beth yw Trojan Horses ychwaith - a gan mai 'Trojans' sy'n cael ei
> ddefnyddio
> fwyaf erbyn hyn dw i wir ddim yn gweld pwynt cyfieithu rhywbeth sy'n
> drosiad
> i gyfleu'r syniad o dwyll neu ymosodiad cudd.
Yn wir, hyd yn oed i bobl sy'n gweithio yn y maes fel fi, prin iawn
dwi'n defnyddio'r term (yn Saesneg). A pryd fasen i'n defnyddio'r term
Cymraeg? Byth. Yr unig bobl sy'n debygol o weld a defnyddio'r termau
yma o ddydd i ddydd yw cyfieithwyr! Felly ni fyddai 'Ceffyl Troea' yn
dod yn gyfarwydd i unrhyw siaradwr Cymraeg cyffredin. Dyma pam fod
rhan fwyaf o bobl yn troi i'r fersiwn Saesneg mewn dogfennau technegol.
Er mod i'n gyfarwydd a'r syniad o 'trojan horse' yn saesneg, doedd
Troea/Caerdroea yn golygu dim i mi. Os oedd e'n cael ei ddefnyddio yn
y cyd-destun o ddiogelwch cyfrifiadurol, mi allwn i fod wedi dyfalu
(dim ond am fod 'trojan horse' yn gyfarwydd yn y maes yma). I ddweud y
gwir mi fyddai "Ceffyl Pren" yn fwy o gliw i ystyr y term (a dwi ddim
yn son am y grwp roc).
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.5/1537 - Release Date: 06/07/2008
05:26
|