Dwi'n cytuno gant y cant ag Ann, er gwaethaf y dadleuon esgotig a di-sail a godir i geisio cyfiawnhau peidio â threiglo neu ddefnyddio ffurf fenywaidd yr ansoddair. Nid oes amau nad 'mudiad' ydy'r Urdd, ond nid ar sail ystyr neu arwyddocâd gair y pennir cenedl gair ychwaith. Y broblem, fwy na thebyg yw fod y gair 'urdd' yn brin bellach yn y Gymraeg heblaw am y 'mudiad' ieuenctid, ac aeth cenedl y gair yn niwlog o'r herwydd. Mae gan ieithoedd eu rheolau mewnol, ac os na pherchir y rhain, waeth inni heb roi'r delyn y y llwyn.
Paul W Birt (gweithiwr ar Eiriadur yr Academi gynt).
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
-----Original Message-----
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
Date: Wed, 11 Jun 2008 20:38:13
To:[log in to unmask]
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
110 Clean DocumentEmail false false false MicrosoftInternetExplorer4
Ydy hyn yn goglygu nad oes angen treiglo ar ol "Cymdeithas" na "Llywodraeth" na "Senedd" na "Plaid"?
O ran arwyddair yr Urdd, gan fod yr Urdd wedi bod yn ystyried cael gwared arno'n weddol ddiweddar, 'dw i'n amau nad yw'r plant yn clywed llawer ohono. Mae rhywun yn cynefino a'r hyn mae'n ei glywed. Pan oeddwn i'n dysgu siarad Cymraeg, 'roeddwn i'n hollol hapus a'r gair "briwgig" am "mince" heb sylweddoli iddo ddod o'r Gododdin, ac mae'n debyg y byddwn i wedi cynefino a "diddosben" a "perdoneg" tasai rhywun wedi dweud wrthyf mai dyna oedd y geiriau ar gyfer het a phiano. Byddai'r plant wedi cynefino ag "Urdd Werdd" o gael y cyfle, ond rwan mi fyddan nhw'n cynefino ag "Urdd Gwyrdd".
Er gwybodaeth, dyma ymateb Prif Weithredwr yr Urdd. Mae'n ymddangos y bydd rhai ohonoch yn hapus arno. Dw i ddim yn siwr, o'r neges, a ydy swyddogion yr Urdd wedi defnyddio'r slogan am nad oeddent yn gwybod yn well ynteu am nad oeddent yn malio.
Ann
Annwyl Ann
Diolch yn fawr i chi am eich e-bost.
Mae cynnal safonau ieithyddol yn rhywbeth sy’n agos at fy nghalon. Mae’r Urdd yn un o’r ychydig sefydliadau yng Nghymru sy’n cynnig awyrgylch gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg – a thrwy hynny gwn ein bod yn cyfoethogi a gwella sgiliau iaith nifer fawr o’n gweithwyr. Rwy’n ymwybodol bod sgiliau megis prawfddarllen a drafftio cywir yn brin iawn iawn ac rydym yn gwneud ymdrech bwriadol i ddatblygu’r rhain ymysg ein staff.
Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol hefyd o’r angen i gyfathrebu’n glir gyda’n cynulleidfaoedd. Nod y teitl ‘Urdd Gwyrdd’ oedd denu sylw at ein amrywiol gynlluniau – a llunio theitl byr, bachog a fyddai’n aros yn y cof. Mae wedi llwyddo i wneud hynny. Rwy’n berffaith hapus ein bod wedi defnyddio’r teitl, beth bynnag yw eich barn am ei gywirdeb ieithyddol.
Yn wir – rydym fel mudiad yn defnyddio’r gair ‘Urdd’ i olygu ein mudiad. Mae ‘mudiad’ hyd y gwn yn air gwrywaidd – ac felly byddwn yn dadlau fod ‘mudiad gwyrdd’ yn gywir – ac felly fod ‘Urdd Gwyrdd’ yn dderbyniol. Nid ‘guild’ yw ei ystyr i ni – mae’r gair Urdd wedi dod yn gyfystyr a Mudiad Urdd Gobaith Cymru.
Byddwn yn croesawu gweld unrhyw lythyr o’ch eiddo yn ymddangos yn y wasg ar y testun – neu mae croeso i chi ohebu ymhellach a mi.
Diolch am dynnu fy sylw at y mater – ac am ddangos diddordeb yn ein gwaith.
Yn gywir
Efa
----- Original Message -----
From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 11, 2008 5:13 PM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Finne hefyd yn y cyd-destun hwn – Mudiad ydi’r Urdd, a’r cwbl ydi’r gair Urdd erbyn hyn yw enw ar y mudiad.
Hwn ydi’r unig Urdd o’r fath. Faint o blant sy’n cofio “Dros Gymru, Dros Gyd-ddyn, Dros Grist” tybed – ond fe fydd Urdd Gwyrdd yn sicr o afael yn nychymig pobl ifanc.
John Puw
GRNCM; TAR / PGCE;
Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Full Member of Association of Welsh Translators and Interpreters
Cyfieithydd / Translator
Uned Gyfieithu / Translation Unit
Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
Ffôn / Tel: 01492 805135
Est / Ext: 05135
E-bost / E-mail: <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]
Gwefan / Website: <http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY> http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY
----------------
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 11 June 2008 17:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Dwi'n cytuno.
----- Original Message -----
From: Siân Roberts <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:30 PM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Ond pan fyddwn ni'n sôn am yr Urdd, nid am "a guild" fyddwn ni'n meddwl. Nid "a green guild" yw "Urdd Gwyrdd"
Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn sôn am yr Urdd fel "hi".
"Fe" - y mudiad - neu "nhw" sy'n cael ei ddefnyddio dw i'n meddwl.
On 11 Jun 2008, at 16:18, Catrin Alun wrote:
O'n i ddim yn cofio am y Blaid Werdd!
----- Original Message -----
From: David
Bullock <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:01 PM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Ie, ond pam na fydden nhw wedi dweud Urdd Wyrdd?
(Ac erbyn meddwl, mae’r Blaid Werdd wedi bod o gwmpas ers sbel heb i neb ddweud bod hynny’n cyfleu syniad gwahanol i blaid gwyrdd).
size=2 width="100%" align=center tabIndex=-1>
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> ] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 11 Mehefin 2008 15:47
At/To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Ie, yn hollol, mae o'n swnio'n iawn i mi. Byddai "Urdd Werdd" yn cyfleu syniad hollol wahanol i "Urdd Gwyrdd" i mi.
----- Original Message -----
From: Catrin
Alun <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 11, 2008 2:06 PM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Onid cyfeirio at yr urdd fel mudiad mae Urdd Gwyrdd - hy Mudiad Gwyrdd - byddai hynny'n gwneud synnwyr i mi.
Catrin
----- Original Message -----
From: Siân
Roberts <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 11, 2008 1:04 PM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Biti - mae'n swnio'n dda!
Efallai tysen nhw'n ysgrifennu "Urdd - Gwyrdd' byddai modd arbed y sefyllfa.
On 11 Jun 2008, at 12:56, Ann Corkett wrote:
Mae Geraint - Prif Weithredwr y Gymdeithas, newydd dynnu fy sylw at y ffaith mai Cyfarwyddwr *Eisteddfod* yr Urdd yw'r dyn draun 'rwyf newydd ysgrifennu ato!
Mae'n debyg y dylwn i fod wedi mynd ar ol Efa Gruffudd Jones, y Prif Weithredwr ( <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]).
Ann
----------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date: 11/06/2008 08:32
----------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date: 11/06/2008 08:32
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for your co-operation.
North Wales Police
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for your co-operation.
North Wales Police
----------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1495 - Release Date: 10/06/2008 17:11
|