Mae gan Peter Wynn adran fer (adran II.11) ar hyn ar td.690 yn Gramadeg y
Gymraeg: 'Treiglo <g> ddechreuol geiriau benthyg yn feddal'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Melanie Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 27, 2008 3:27 PM
Subject: Re: Yn Dyffryn!
Dwi'n cymryd na ddylem dreiglo geiriau sydd wedi'u benthyg o'r Saesneg fel
gem, golff, graffeg etc ond wn i ddim a oes rheol am yr eithriadau eraill.
Melanie
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 27, 2008 2:35 PM
Subject: Re: Yn Dyffryn!
Mae'r drafodaeth wedi fy atgoffa o hanes Sais o athro Mathemateg yn yr ardal
hon, flynyddoedd lawer yn ôl, a ddysgodd Gymraeg gyda chymaint o barch at
reolau gramadeg fel ei fod yn arfer gwahodd cydweithwyr i "ddod am êm o
olff".
Oes yna reol ynglyn â'r eithriadau i'r rheol yn achos y llythyren 'g'?
Wyn
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1521 - Release Date: 26/06/2008
11:20
|