Wn i ddim pa mor wir/cywir yw hyn, ond fe ddwedodd rywun wrtha i na ddylid treiglo'n feddal eiriau'n dechrau â 'g' os ydyn nhw'n fenthyciadau o'r Saesneg: ee grwp (sori, fedra i ddim roi to bach ar 'w' ar yr ebost), golff a gêm, (ond yn amlwg tydi Gorseinion ddim yn air benthyg, hyd y gwn i beth bynnag)!
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Wyn Hobson
Sent: 27 June 2008 14:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Yn Dyffryn!
Mae'r drafodaeth wedi fy atgoffa o hanes Sais o athro Mathemateg yn yr ardal hon, flynyddoedd lawer yn ôl, a ddysgodd Gymraeg gyda chymaint o barch at reolau gramadeg fel ei fod yn arfer gwahodd cydweithwyr i "ddod am êm o olff".
Oes yna reol ynglyn â'r eithriadau i'r rheol yn achos y llythyren 'g'?
Wyn
|