Rwy'n ceisio dwyn i gof fanylion y frawddeg - flynyddoedd yn ôl erbyn hyn -
oedd yn sôn rhywbeth am y gwahanol fathau o sefydladiau oedd yn cynrychioli
cleifion yn y gwasanaeth iechyd. Rhywbeth fel 'patients organisations are
found in almost all hospitals '.
Wel, weithiau, roedden ni'n defnyddio'r gair 'corff' i gyfieithu
'organisation', felly ar ôl arddweud cyfieithiad ar dâp, beth ddaeth nôl
oddi wrth y deipyddes oedd ....
'mae cyrff cleifion ar gael ym mhob ysbyty bron'
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 25 Mehefin 2008 11:04
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Hiwmor/odl anfwriadol
Dyma anhawster sy'n fy nharo bob hyn a hyn wrth gyfieithu i'r Saesneg - lle
mae cyfieithu'n llythrennol ac yn naturiol yn arwain at gynnyrch yn yr ail
iaith sy'n difetha cywair y gwreiddiol yn llwyr. 'Dw i ddim wedi cofio ei
nodi tan rwan, a byddwn i'n hoffi casglu enghreifftiau er mwyn so^n wrth
gyfieithwyr ifainc amdano. A oes gan unrhyw arall rai i'w cynnig, neu
awgrymiadau ynghylch sut i ddatrys y broblem bresennol?
Ni allaf gofio'r enghraifft waethaf a gefais - arweiniodd at rywbeth megis
"tragic magic", ond nid dyna oedd hi, gan y byddai honno wedi bod yn ddigon
hawdd ei datrys.
Enghraifft weddol dila yw'r un isod, ac eto byddwn i'n falch o awgrymiadau:
Cynhelid cyfarfod coffa ar 29 Mai a bwriadai'r Llywydd fod yn bresennol.
A ?memorial meeting would be held on 29 May and the President intended
attending
A ?memorial meeting, at which the President intended being present would be
held on 29 May.
Gwn y gallaf ddweud:
... which the President hoped to attend
... which the President would be attending
a fydd y gwahaniaeth ddim yn un mawr, ond mi all y broblem godi mewn
sefyllfa fwy difrifol.
Mae'n debyg bod llawer ohonoch wedi clywed (a rhai ohonoch yn ddigon hen i
werthfawrogi) yr hanes am gyfarfod Ewropeaidd lle bu'n rhaid cyfieithu'r
dymuniad, yn Ffrangeg, y ca^i'r broblem ei datrys trwy gallineb pobl
Normandi - that the problem will be solved by Norman wisdom.
|