Mae'r drafodaeth wedi fy atgoffa o hanes Sais o athro Mathemateg yn yr ardal
hon, flynyddoedd lawer yn ôl, a ddysgodd Gymraeg gyda chymaint o barch at
reolau gramadeg fel ei fod yn arfer gwahodd cydweithwyr i "ddod am êm o olff".
Oes yna reol ynglyn â'r eithriadau i'r rheol yn achos y llythyren 'g'?
Wyn
|