Byddai dadl gyffelyb yn digwydd yn Ffrainc (sydd ag academi i ddiogelu
safon yr iaith Ffrangeg), yn yr Almaen ac mewn nifer o ieithoedd, ond
rwy'n meddwl efallai na fyddai mudiadau yn Ffrainc yn gwneud y fath
beth, beth bynnag, byddant yn cadw at reolau arferol yr iaith.
Dw i ddim yn deall paham bod pobl yn credu bod y Cymry'n fwy cecrus
nag unrhyw genedl arall am y pethau hyn. Mae hyd yn oed y Saeson yn
dadlau byth a beunydd am safon yr iaith, ac am gywirdeb, mae'n dda o
beth bod pobl yn fodlon trafod a dadlau am y pethau hyn.
2008/6/16 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Clywch clywch.
>
> Dim ond yng Nghymru fach fase'r ddadl yma'n digwydd. Tra yn Lloegr mae
> Benjamin Zephaniah a Linton Kwesi Johnson ar y maes llafur TGAU Saesneg.
|