O ran pennu beth yw cenedl y gair 'Urdd' i'r rhan fwyaf o bobl heddiw, efallai ein bod yn defnyddio sampl sy ddim ond yn adlewyrchu barn carfan fechan o bobl (heb sôn am farn dyrnaid o gyfieithwyr penboeth!). Os gellid dangos mai gwrywaidd yw'r gair urdd gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y mudiad hwnnw, ac yn yr ysgolion, wedyn dyna gloi'r ddadl yn derfynol. Y peth i'w osgoi ydy chwiwiau ieithyddol di-sail heb gysylltiad â'r byd go-iawn.
O ran hwyl, p'un sy'n gywir:
Beth yw'r Urdd? Mae hi'n fudiad ieuenctid neu Mae e/o'n fudiad ieuenctid.
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
-----Original Message-----
From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Date: Wed, 11 Jun 2008 22:16:50
To:[log in to unmask]
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Os ydi o'n swnio'n iawn i'r rhan fwyaf o'n cyd-Gymry, pwy ydan ni i bennu
rheolau.
Gweler GPC "- eb. ac yn eithriadol eg."
Felly does dim dadl, nagoes? Un o'r achosion eithriadol hynny yw hwn.
Geraint
----- Original Message -----
From: <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 12, 2008 2:22 AM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
> Dwi'n cytuno gant y cant ag Ann, er gwaethaf y dadleuon esgotig a di-sail
> a godir i geisio cyfiawnhau peidio â threiglo neu ddefnyddio ffurf
> fenywaidd yr ansoddair. Nid oes amau nad 'mudiad' ydy'r Urdd, ond nid ar
> sail ystyr neu arwyddocâd gair y pennir cenedl gair ychwaith. Y broblem,
> fwy na thebyg yw fod y gair 'urdd' yn brin bellach yn y Gymraeg heblaw am
> y 'mudiad' ieuenctid, ac aeth cenedl y gair yn niwlog o'r herwydd. Mae gan
> ieithoedd eu rheolau mewnol, ac os na pherchir y rhain, waeth inni heb
> roi'r delyn y y llwyn.
>
> Paul W Birt (gweithiwr ar Eiriadur yr Academi gynt).
> Paul W. Birt, PhD
> Chaire d'Études celtiques,
> Université d'Ottawa,
> 70, rue Laurier,(131)
> Ottawa,
> K1N 6N5
> Ontario
> Canada
> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> Tél. (613)562-5800(3767)
> Téléc/Fax (613)562-5138.
>
>
> -----Original Message-----
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
>
> Date: Wed, 11 Jun 2008 20:38:13
> To:[log in to unmask]
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
> 110 Clean DocumentEmail false false false MicrosoftInternetExplorer4
> Ydy hyn yn goglygu nad oes angen treiglo ar ol "Cymdeithas" na
> "Llywodraeth" na "Senedd" na "Plaid"?
>
> O ran arwyddair yr Urdd, gan fod yr Urdd wedi bod yn ystyried cael gwared
> arno'n weddol ddiweddar, 'dw i'n amau nad yw'r plant yn clywed llawer
> ohono. Mae rhywun yn cynefino a'r hyn mae'n ei glywed. Pan oeddwn i'n
> dysgu siarad Cymraeg, 'roeddwn i'n hollol hapus a'r gair "briwgig" am
> "mince" heb sylweddoli iddo ddod o'r Gododdin, ac mae'n debyg y byddwn i
> wedi cynefino a "diddosben" a "perdoneg" tasai rhywun wedi dweud wrthyf
> mai dyna oedd y geiriau ar gyfer het a phiano. Byddai'r plant wedi
> cynefino ag "Urdd Werdd" o gael y cyfle, ond rwan mi fyddan nhw'n cynefino
> ag "Urdd Gwyrdd".
>
> Er gwybodaeth, dyma ymateb Prif Weithredwr yr Urdd. Mae'n ymddangos y bydd
> rhai ohonoch yn hapus arno. Dw i ddim yn siwr, o'r neges, a ydy swyddogion
> yr Urdd wedi defnyddio'r slogan am nad oeddent yn gwybod yn well ynteu am
> nad oeddent yn malio.
> Ann
>
>
> Annwyl Ann
> Diolch yn fawr i chi am eich e-bost.
> Mae cynnal safonau ieithyddol yn rhywbeth sy’n agos at fy nghalon. Mae’r
> Urdd yn un o’r ychydig sefydliadau yng Nghymru sy’n cynnig awyrgylch
> gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg – a thrwy hynny gwn ein bod yn cyfoethogi a
> gwella sgiliau iaith nifer fawr o’n gweithwyr. Rwy’n ymwybodol bod sgiliau
> megis prawfddarllen a drafftio cywir yn brin iawn iawn ac rydym yn gwneud
> ymdrech bwriadol i ddatblygu’r rhain ymysg ein staff.
> Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol hefyd o’r angen i gyfathrebu’n glir gyda’n
> cynulleidfaoedd. Nod y teitl ‘Urdd Gwyrdd’ oedd denu sylw at ein amrywiol
> gynlluniau – a llunio theitl byr, bachog a fyddai’n aros yn y cof. Mae
> wedi llwyddo i wneud hynny. Rwy’n berffaith hapus ein bod wedi defnyddio’r
> teitl, beth bynnag yw eich barn am ei gywirdeb ieithyddol.
> Yn wir – rydym fel mudiad yn defnyddio’r gair ‘Urdd’ i olygu ein mudiad.
> Mae ‘mudiad’ hyd y gwn yn air gwrywaidd – ac felly byddwn yn dadlau fod
> ‘mudiad gwyrdd’ yn gywir – ac felly fod ‘Urdd Gwyrdd’ yn dderbyniol. Nid
> ‘guild’ yw ei ystyr i ni – mae’r gair Urdd wedi dod yn gyfystyr a Mudiad
> Urdd Gobaith Cymru.
> Byddwn yn croesawu gweld unrhyw lythyr o’ch eiddo yn ymddangos yn y wasg
> ar y testun – neu mae croeso i chi ohebu ymhellach a mi.
> Diolch am dynnu fy sylw at y mater – ac am ddangos diddordeb yn ein
> gwaith.
> Yn gywir
> Efa
>
> ----- Original Message -----
> From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, June 11, 2008 5:13 PM
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
>
> Finne hefyd yn y cyd-destun hwn – Mudiad ydi’r Urdd, a’r cwbl ydi’r gair
> Urdd erbyn hyn yw enw ar y mudiad.
>
> Hwn ydi’r unig Urdd o’r fath. Faint o blant sy’n cofio “Dros Gymru, Dros
> Gyd-ddyn, Dros Grist” tybed – ond fe fydd Urdd Gwyrdd yn sicr o afael yn
> nychymig pobl ifanc.
>
>
>
> John Puw
> GRNCM; TAR / PGCE;
> Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
> Full Member of Association of Welsh Translators and Interpreters
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Gyfieithu / Translation Unit
> Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
> Ffôn / Tel: 01492 805135
> Est / Ext: 05135
> E-bost / E-mail: <mailto:[log in to unmask]>
> [log in to unmask]
> Gwefan / Website: <http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY>
> http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY
>
>
>
>
> ----------------
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 11 June 2008 17:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
> Dwi'n cytuno.
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Siân Roberts <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:30 PM
>
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
> Ond pan fyddwn ni'n sôn am yr Urdd, nid am "a guild" fyddwn ni'n meddwl.
> Nid "a green guild" yw "Urdd Gwyrdd"
>
> Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn sôn am yr Urdd fel "hi".
>
> "Fe" - y mudiad - neu "nhw" sy'n cael ei ddefnyddio dw i'n meddwl.
>
>
>
>
>
>
>
>
> On 11 Jun 2008, at 16:18, Catrin Alun wrote:
>
>
>
>
> O'n i ddim yn cofio am y Blaid Werdd!
>
> ----- Original Message -----
>
> From: David
> Bullock <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:01 PM
>
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
>
>
> Ie, ond pam na fydden nhw wedi dweud Urdd Wyrdd?
>
> (Ac erbyn meddwl, mae’r Blaid Werdd wedi bod o gwmpas ers sbel heb i neb
> ddweud bod hynny’n cyfleu syniad gwahanol i blaid gwyrdd).
>
> size=2 width="100%" align=center tabIndex=-1>
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]> ] Ar ran Geraint Lovgreen
> Anfonwyd/Sent: 11 Mehefin 2008 15:47
> At/To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
> Ie, yn hollol, mae o'n swnio'n iawn i mi. Byddai "Urdd Werdd" yn cyfleu
> syniad hollol wahanol i "Urdd Gwyrdd" i mi.
>
>
> ----- Original Message -----
>
>
> From: Catrin
> Alun <mailto:[log in to unmask]>
>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
>
> Sent: Wednesday, June 11, 2008 2:06 PM
>
>
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
> Onid cyfeirio at yr urdd fel mudiad mae Urdd Gwyrdd - hy Mudiad Gwyrdd -
> byddai hynny'n gwneud synnwyr i mi.
>
>
> Catrin
>
>
> ----- Original Message -----
>
>
> From: Siân
> Roberts <mailto:[log in to unmask]>
>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
>
> Sent: Wednesday, June 11, 2008 1:04 PM
>
>
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
> Biti - mae'n swnio'n dda!
>
>
> Efallai tysen nhw'n ysgrifennu "Urdd - Gwyrdd' byddai modd arbed y
> sefyllfa.
>
>
>
>
> On 11 Jun 2008, at 12:56, Ann Corkett wrote:
>
>
>
>
>
>
>
> Mae Geraint - Prif Weithredwr y Gymdeithas, newydd dynnu fy sylw at y
> ffaith mai Cyfarwyddwr *Eisteddfod* yr Urdd yw'r dyn draun 'rwyf newydd
> ysgrifennu ato!
>
>
> Mae'n debyg y dylwn i fod wedi mynd ar ol Efa Gruffudd Jones, y Prif
> Weithredwr ( <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]).
>
>
> Ann
>
> ----------------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG.
> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date: 11/06/2008
> 08:32
>
>
>
> ----------------
>
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG.
> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date: 11/06/2008
> 08:32
>
>
>
>
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar
> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai
> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am
> eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
> the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised
> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in
> this document may not be official policy. Thank you for your co-operation.
>
> North Wales Police
>
>
>
>
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar
> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai
> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am
> eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
> the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised
> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in
> this document may not be official policy. Thank you for your co-operation.
>
> North Wales Police
>
>
> ----------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG.
> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1495 - Release Date: 10/06/2008
> 17:11
>
|