Ydy o'n eithriad, Geraint? Gofyn ydw i yn f'anwybodaeth, ond y cwestiwn imi
fyddai pam fyddai pobl yn dweud "y Gors Einon" yn y lle cyntaf, gan gymryd
mai Enw dyn yw Einon. Efallai, wrth feddwl, ni fyddai pobl yn clywed "Cors
Eion" yn aml heblaw yn y ffurf treigledig - i Gorseinon, yng Nghorseinon, ac
mae rhaid dweud "Cors Einon" ar ei ben ei hun yn ofalus er mwyn clywed ai C
ynetu G sydd yno.
Mwydro ydw i wrth bendroni fel hyn. 'Dw i wedi ceisio rhoi rhywbeth callach
at ei gilydd ar y pwnc yn gyffredinol, ond hoffwn gael Bruce i edrych drosto
cyn ei anfon.
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 27, 2008 11:03 AM
Subject: Re: Yn Dyffryn (!)
> Dyma eithriad iti Howard - i Gorseinon (yn hytrach nag i Orseinon)
>
> (a dim isio trafod pam ydw i, dwi'n gwybod pam, dim ond isio dangos bod
> eithriadau'n gallu digwydd!)
>
> oddi wrth
> Eraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, June 27, 2008 8:57 AM
> Subject: Yn Dyffryn (!)
>
>
> Treiglir enwau lleoedd Cymraeg. Ni wn am unrhyw eithriad, ac nid derbyniol
> anwybyddu'r rheol hon.
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1521 - Release Date: 26/06/2008
11:20
|