Mae'n eitha posib mai 'elwa ar' sy'n gywir, ond daeth hwn i fyny mewn
cyfieithiad rwy'n gweithio arno ar hyn o bryd a dewisais 'elwa o' am ei
fod yn swnio'n well i mi.
Edrychais ar Google hefyd, a defnyddir y ddau (iaith fyw etc).
Dafydd
On Thu, 19 Jun 2008 11:08:57 +0100, Carolyn Iorwerth
<[log in to unmask]> wrote:
>Fyddwn i ddim am honni 'mod i'n gwybod beth sy'n iawn Rhian, ond fydda i'n
>tueddu i wahaniaethu rhwng 'elwa o' ac 'elwa ar' fel yr wyt ti'n ei
awgrymu.
>
>Carolyn
>
> _____
>
>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
>Anfonwyd/Sent: 19 Mehefin 2008 09:36
>At/To: [log in to unmask]
>Pwnc/Subject: Elwa ar/Elwa o
>
>
>
>Bore Da
>Cwestiwn gramadegol sydd gen i.
>Flynyddoedd yn ôl roeddwn i'n arfer credu bod 'elwa o' yn golygu 'to
benefit
>from' ac 'elwa ar' yn golygu rhywbeth negyddol fel 'cymryd mantais'. Yna
>cefais fy nghywiro a dywedwyd wrthyf mai 'elwa ar' yw'r rheol bob tro,
beth
>bynnag fo'r cyd-destun. Cadwais at hynny ond yn ddiweddar dywedodd rhwyun
>BOD angen gwahaniaethu drwy ddefnyddio 'elwa ar' ac 'elwa o'! Dw i wedi
>edrych yn GyrA dan 'benefit' ac 'elwa ar' sydd yno! Dw i bellach wedi hen
>ddrysu! Oes goleuni gan rhywun?
>
>Diolch yn fawr
>
>Rhian
>
>Rhian Huws
>Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
>Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
>14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
>Caerdydd/Cardiff
>CF11 9LJ
>Ffôn/Telephone: 029 20227744
>Ebost/Email: [log in to unmask]
>Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch / Please
>consider the environment before printing this email - thank you
>
>
>
|