Mae'r cwbl yn syml:
1. Mae 'urdd' yn fenywaidd (er bod 'y trydydd urdd' mewn Hen Gymraeg).
'Urdd Werdd' yw'r unig gyfieithiad traddodiadol.
2. A bwrw ein bod am golli 'gwerdd', ceir:
Urdd Wyrdd
3. A bwrw ein bod am golli cenedl enwau pethau difywyd, er mwyn cydweddu â'r
Saesneg:
Urdd Gwyrdd
Diau mai'r olaf sydd fwyaf naturiol i'r rhan fwyaf o siaradwyr ifainc, ond
mae'n dal yn gwbl anghywir os nad ydym am i'r Gymraeg ddilyn y Saesneg ym
mhob dim.
Rhisiart
----- Original Message -----
From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, June 15, 2008 10:00 PM
Subject: Urdd Gwyrdd
> Yn y Llyfrgell yn Aberystwyth maen nhw'n gwneud ymdrech deg i ddilyn
> cyfarwyddyd y Ddraig Werdd, sydd wedi llunio nifer o argymhellion i
> helpu pobl i ymroi i wella'r amgylchedd. Mae'n ymddangos yn hollol
> iawn defnyddio ffurf fenywaidd yr ansoddair yn y cyswllt hwn. A rhyw
> deimlo bod y fannod ar goll efo'r llythrennau breision, pa un a ydy
> o'n 'Urdd Gwyrdd' neu 'Urdd Werdd'. Yr hen odl 'na sy'n taflu pawb,
> dwi'n meddwl.
>
> Y peryg mawr, hefyd, hefo 'Urdd Gwyrdd' ydy ei fod o'n debygol o
> gamarwain yr hen blant. Mae geiriau sloganaidd yn aros yn y cof, fel
> y mae geiriau darn o farddoniaeth, a chan mai plant yw'r targed yma,
> nhw yn fwy na neb sy'n mynd i'w cofio. Onid gwell fasai ceisio osgoi
> hyn a chael gafael ar ddywediad bach hyd yn oed gwell i gyfleu'r neges
> bod 'Urdd Gobaith Cymru' yn fudiad gwyrdd. Efallai gallai'r Urdd
> gynnal cystadleuaeth - am y gora i roi'r neges hon mewn geira!
>
> Un peth calonogol ynglyn a'r drafodaeth yma - mae'n beth da bod ni'n
> poeni!
>
> Pob hwyl
>
> Eluned
>
|