Dyna biti nad yw 'moyn' yn ffurf fyddai'n dderbyniol yn y Gogledd hefyd!
Catrin
(os mai dyna'r sillafiad!!)
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 07, 2008 9:44 AM
Subject: Re: want
Annwyl Sian,
Mi wna i drosglwyddo'r ymholiad i Bruce os dymunwch, ond gallaf ddychmygu ei
ymateb i'r dosbarth mewn materion fel hyn - a ydych am ddefnyddio rhywbeth
mae rhai pobl yn barod i dderbyn fel ffurf gywir, ynteu rhywbeth mae pawb yn
ei dderbyn fel ffurf gywir?
Bydd yn ddiddorol gweld ymateb awdurdodau llai traddodiadol, ond byddwn i'n
gofyn beth yw oedran y gynulleidfa ddisgwyliedig - a hefyd a yw'r cwsmer yn
ddigon hyddysg yn yr iaith i ddeall eich penbleth. Os oes arnom eisiau
disodli'r ffurf draddodiadol yn llwyr, mae defnyddio'r ffurf newydd mewn
Beibl yn fodd delfrydol o'i wneud. Pryd y bwriedir cyflwyno "ar" o gwbl?
Mae'n debyg bod lles ysbrydol y blant yn bwysicach na phurdeb yr iaith, ond
a yw ychydig defnydd o "ar" yn mynd i wneud y Beibl yn annealladwy, neu
rwystro'r plant rhag ei ddarllen?
Ann
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 07, 2008 9:13 AM
Subject: want
Dw i wrthi'n cyfieithu Beibl i Blant - tua 400 tudalen.
Dw i'n ceisio defnyddio arddull eithaf anffurfiol ond cywir.
Mae "want" yn digwydd yn aml iawn:
I want, He wanted ac ati.
Dw i'n gweld bod beibl.net yn rhedeg "bod" gydag "eisiau"
e.e. "Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau."
Dw i'n cael fy nhynnu ddwy ffordd - mae'r ffurf gydag "ar" yn swnio'n eitha
stiff yn aml ond mae
trefn beibl.net yn dal i daro braidd yn chwithig.
"Defnyddir y gystrawen ansafonol uchod weithiau mewn arddulliau anffurfiol
eithr nid yw'r
gystrawen newydd wedi ei chyffredinoli i bob cyd-destun gan bawb sy'n ei
harfer" - yn ôl Peter
Wynn Thomas.
Dw i wedi bod yn ceisio osgoi'r broblem a dweud pethau fel "Roedd e'n dymuno
mynd ..."! "Roedd
hi am wneud ..." ond dw i ddim yn siwr pa mor ddealladwy yw hyn i blant
Oes gan rywun farn?
Diolch yn fawr
Siân
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.9/1418 - Release Date: 06/05/2008
17:17
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.9/1418 - Release Date: 06/05/2008
17:17
|