Ydi, mae'n swnio'n rhyfedd i mi. Yn gam neu'n gymwys dw i wastad yn defnyddio 'dwy flwyddyn academaidd' / 'dwy flwyddyn ariannol'.
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 18 April 2008 09:30
To: [log in to unmask]
Subject: Blwyddyn academaidd
Oes unrhyw un arall yn meddwl bod 'tair blynedd acadamaidd' yn swnio'n rhyfedd?
Mae Geiriadur yr Academi yn dangos bod 'blwyddyn' yn gallu bod yn iawn ar ôl rhifol ("Dwy flwyddyn dda oedd 1951 a 1963").
Ydy 'tair blwyddyn academaidd' neu 'pedair blwyddyn ariannol' yn dderbyniol?
|