Roeddwn i'n gallu darllen ateb Muiris isod - ond pan fydd pobl eraill
yn ei ddyfynnu mae'n troi'n rwtshi rwtsh.
Muiris:
O'r Cofnod: "Lorraine Barrett: Nid ildiaf i unrhyw ymgais gan Peter
Rogers i ymyrryd oherwydd ni adawaf i neb weiddi arnaf. Datganaf
ddiddordeb fel cadeirydd grŵp yr holl bleidiau ar les anifeiliaid.
Croesawaf y cynigion sy'n galw am ddwyn ymlaen y dyddiad pryd y caiff
cewyll batri ar gyfer ieir eu disodli gan ***gewyll ag elfennau
wedi'u hychwanegu.***
Hwyl
Siân
On 30 Apr 2008, at 12:25, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> O'r cofnod
>
> "Lorraine Barrett: Nid ildiaf i unrhyw ymgais gan Peter Rogers i
> ymyrryd oherwydd ni adawaf i neb weiddi arnaf.
> Datganaf ddiddordeb fel cadeirydd grŵp yr holl bleidiau ar les
> anifeiliaid. Croesawaf y cynigion sy'n galw am ddwyn ymlaen y
> dyddiad pryd y caiff cewyll batri ar gyfer ieir eu disodli gan
> ***gewyll ag elfennau wedi'u hychwanegu.***
>
> Ddim yn fachog iawn ond mae'n esbonio beth ydynt.
>
> Muiris
>
>
> 2008/4/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>>
>>
>> Dwi'n dal i aros am ateb - dwi di deud wrth y cwsmer y bydd raid
>> iddo fod yn
>> amyneddgar.
>>
>> ;-)
>>
>>
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: GLENYS ROBERTS
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Wednesday, April 30, 2008 12:05 PM
>> Subject: enriched cages
>>
>>
>> Holodd Geraint Lovgreen am hyn yn ôl yn 2002, ond wela i ddim ateb
>> yn yr
>> archifau. Cewyll batri yw'r cyd-destun - mae'r rhain ychydig yn
>> well na'r
>> rhai affwysol arferol, ond dim llawer. 'Cewyll coethach' sy' gen i
>> ar hyn o
>> bryd - ond os oes gan rywun awgrym sy'n cyfleu'r 'enrich' yn well,
>> baswn yn
>> falch o'i glywed. Neu'n gwybod am derm sydd eisoes yn cael ei
>> ddefnyddio.
>> TermCymru ar streic yma.
>> Diolch
>> Glenys
|