Ydy, dyna yn gymwys beth y mae'n ei awgrymu, a dyna sut mae rhai
peiriannau chwilio'n edrych drwy'r testun ac yn penderfynu a yw
tudalen yn berthnasol i chwiliad neu beidio.
On 06/04/2008, Siān Roberts <[log in to unmask]> wrote:
> Dw i ddim yn deall y maes ond tybed ydi e'n awgrymu eich bod yn defnyddio
> llawer o ymadroddion allweddol i'w wneud yn fwy tebygol y bydd peiriannau
> chwilio'n dod o hyd i chi?
> Hynny yw, "text rich in key phrases" - "rich" yn yr un ystyr ā "flower rich
> meadows" - dolydd lle ceir llawer o flodau.
>
> Hwyl
> Siān
>
>
> On 6 Apr 2008, at 22:46, Elin Davies wrote:
>
> > Wel, sgen i'm syniad yma! Dyma'r frawddeg yn llawn, mae'n dod mewn rhestr
> o
> > bwyntiau bwled ar sut i wneud y gorau o allweddeiriau er mwyn i safleoedd
> > megis Google eich gosod ar ben eu rhestr.
> >
> > Increase the amount of keyphrase rich text on each page
> >
> > Dwi ddim yn siwr a ddylwn i gyfieithu'r 'rich text' neu beidio i ddechrau
> > gan bod RTF fel arfer yn cael ei gadw yn y Saesneg yn tydi? Ydi'r rich
> text
> > yma yr un rich text ag RTF?
> >
> > Diolch yn fawr iawn o flaen llaw am unrhyw gymorth
> > Elin
> >
>
|