"Geirda" (statws 5) yn unig a roddir gan TermCymru am "reference".
Roedd arna i eisiau cyfieithu "any job offer is subject to references".
Does dim sôn am luosog "geirda" yn TermCymru na Geiriadur yr Academi ond mae Gwgl yn ffeindio
319 enghraifft o "geirdaon"o bob math o wahanol lefydd. Welais i erioed mohono o'r blaen ac mae'n
swnio braidd yn od i mi. Ydi e wedi ennill ei blwyf?
Efallai y byddai'n well defnyddio "tystlythyrau".
A oes gwahaniaeth rhwng "geirda" a "thystlythyr"? Dw i'n gweld bod rhai dogfennau'n cyfeirio at
"eirdaon a thystlythyrau".
Diolch
Siân
|