Arferid cael matresi wedi eu llanw â manus / peiswyn / peswyn / pesgwyn yn
Llydaw hefyd. Cofiaf rywun yn fy holi 'Beth sy'n mynd i'r afon ac yn gadel
ei fola gartre?' Ateb y pos oedd 'ur c'holch'ed pell', h.y 'gwely manus', am
y gwaceid y manus (y bola) cyn mynd â'r gorchudd i'r pwll golchi...
Rhisiart
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, March 01, 2008 8:01 PM
Subject: beswyn
Oes na rhyw fath o fatres neu ddilledyn gwely o'r enw 'beswyn' neu
rhywbeth tebyg? Neu oedd na ers talwm?
Dafydd
|