Mewn achosion o ddefnyddio llythrennau cyntaf term, ac yna'u gwneud yn
lluosog, yna i bob pwrpas mae'r llythrennau eu hunain yn creu gair newydd.
"MPs" ("em-pîs") a ddywedir ar lafar, ac nid ffordd hwylus o dalfyrru'r gair
yn ysgrifenedig yn unig ydyw, ac felly y rheol resymegol i'w defnyddio yw'r
un un a ddefnyddir ar gyfer unrhyw air arall. "Cat" -> "Cats", felly "MP"
-> "MPs".
Mae'n wahanol i'r ddadl ynghylch llythrennau ar ôl dyddiad (23ain Ebrill)
lle na fyddai neb yn defnyddio'r talfyriad ar lafar ("dau-tri-ain Ebrill").
Steffan
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
> Behalf Of Saunders, Tim
> Sent: 05 March 2008 12:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: reference
>
>
> Cwestiwn nid annhebyg wedi bod yn y gorffennol gyda geiriau
> fel 'gwrda' (ll. gwyrda), ac yn ddiweddarach gyda AS (ASau -
> ond pam nad AauC?) ac AC (ACau - pam nad AauC). Yr un yw'r
> broblem yn Saesneg, gyda phethau fel 'MPs'. Mewn ieithwedd
> filwrol - ac yn unol â rheolau arferol rhesymeg - byddai
> rhywun yn disgwyl 'MsP'. (Er by byddai'n deg i ddisgrifio
> rhywun fel Dr. Paisley, er anghraifft, fel 'MPs'). Efallai
> fod ddim ateb terfynol yn mynd i fod i gwestiwn fel hyn.
>
>
> Tim
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf
> Council Translation Unit
> Ty Trevithick
> Abercynon
> Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
> Ffôn +44-(0)-1443-744000
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag
> ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all
> fod yn gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir
> uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system
> os gwelwch yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r
> asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio,
> adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not
> necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
> The information contained in this communication is
> confidential. It may be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify
> originator and erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or
> agent responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use,
> review, dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
> Sent: 05 March 2008 12:34
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: reference
>
>
> 'geirdâu' yw'r ffurf y bydd Megan, cyn-Brif Weithredwr Cymdeithas
> Cyfieithwyr Cymru, yn ei defnyddio. Wn i ddim o ble y cafodd
> hi afael ar y
> ffurf hynod honno!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, March 05, 2008 9:33 AM
> Subject: Re: reference
>
>
> Am syndod. Newydd chwilio archif Trados a darganfod mai dim
> ond unwaith
> 'rwyf wedi defnyddio gair am "references", gan ei osgoi gydag
> ymadroddion
> fel "dau eirda" neu "pob geirda". "Geirdaon" a ddefnyddiais
> yr un tro, heb
> fod yn hollol hapus, a dywed Bruce na all fod yn gywir. "Geiriau da"
> fyddai'n gywir yn ramadegol, ond yn ymarferol byddai
> "llythyron geirda" yn
> well.
>
> Ydy, mae "tyslythythr" - "testimonial" yn wahanol. Cewch
> dystlythyr yn
> uniongyrchol gan hen gyflogwr, h.y. fe'i rhoddir ichi'ch hun
> heb ei selio, a
> gallwch ei ddarllen eich hun a'i gadw i ddangos i sawl
> cyflogwr arfaethedig.
> 'Dw i ddim yn meddwl bod llawer o ddefnydd na choel arnynt
> ddyddiau hyn, ond
> mae gen i rai o eiddo Mam o'r cyfnod cyn y Rhyfel.
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, March 05, 2008 8:58 AM
> Subject: reference
>
>
> "Geirda" (statws 5) yn unig a roddir gan TermCymru am "reference".
> Roedd arna i eisiau cyfieithu "any job offer is subject to
> references".
> Does dim sôn am luosog "geirda" yn TermCymru na Geiriadur yr
> Academi ond mae
> Gwgl yn ffeindio
> 319 enghraifft o "geirdaon"o bob math o wahanol lefydd.
> Welais i erioed
> mohono o'r blaen ac mae'n
> swnio braidd yn od i mi. Ydi e wedi ennill ei blwyf?
> Efallai y byddai'n well defnyddio "tystlythyrau".
> A oes gwahaniaeth rhwng "geirda" a "thystlythyr"? Dw i'n
> gweld bod rhai
> dogfennau'n cyfeirio at
> "eirdaon a thystlythyrau".
>
> Diolch
> Siân
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.4/1312 - Release
> Date: 04/03/2008
> 21:46
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.4/1312 - Release
> Date: 04/03/2008
> 21:46
>
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|