Diolch yn fawr am bob cymorth.
Y frawddeg dan sylw yw: "All appointments are subject to the receipt of satisfactory references".
Am ddau eirda y gofynnir ond mae'n siwr nad yw'n amhosibl y gallai'r cyflogwr benderfynu gofyn am
un arall am ryw reswm. Felly, gwell peidio â sôn am "ddau eirda".
Os gallai fod yn eirda llafar, alla i ddim sôn am "lythyron geirda", felly beth am
"Mae pob penodiad yn amodol ar gael geirda boddhaol gan ganolwyr." ?
Diolch eto
Siân
|