Diolch, byddaf yn ei ychwanegu at y rhestr o bethau sydd angen sylw!
Ann
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 26, 2008 12:45 PM
Subject: Re: paramedic
Ann, mae 'Paramilwrol' yn y geiriadur hefyd.
M
On 26/02/2008, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>
>
> Mae Bruce yn cytuno; dydy o ddim yn siwr sut y daeth "parameddyg" i'r
> Geiriadur. Y rheol yw, os bydd yr ail air yn air brodorol, dylai
> dreiglo -
> e.e. biocemeg ond ond bioddaearyddol. Mae Bruce yn cofio Dafydd Glyn yn
> dweud bod 'meddyg', er ei fod yn air benthyg (o'r Rhufeiniaid), wedi bod
> yn
> yr iaith cyhyd fel ei fod yn cyfrif fel gair brodorol erbyn hyn.
>
> Wedi chwilio a chwilio, dyma neges a anfonais ar ran Bruce, ynghylch
> "bioprocess engineering" yn 2004:
> "Oes, ma 'na batrwn y *ceisiwyd* ei ddilyn yng NgyrA.
>
> Os yw'r ddwy elfen yn ddieithr, yn Roegaidd, er enghraifft, 'does dim
> treiglad ar ol "bio-" (neu unrhyw ragddodiad dieithr arall, megis
> "techno-"). Os yw'n gyfuniad o elfen ddieithr ac elfen Gymraeg (e.e.
> "bioddaearyddiaeth", tasai'r fath beth mewn bod), fe fyddai treiglad. Y
> cwestiwn, felly, yw a yw "prosesu" bellach i'w ystyried fel elfen Gymraeg,
> yn yr un modd ag y daeth "meddygaeth", "meddyg" a "meddyginiaeth" er eu
> bod
> yn eiriau benthyg o'r Lladin, bellach yn hollol Gymreigaidd mewn ffurfiau
> megis "parafeddygol".
>
> Gwelaf hefyd fod gen i neges at Cysgeir ddeunaw mis yn ol - yn dal yn y
> bocs drafftiau! - i ddweud bod anghysondeb rhwng "parafeddyg" a
> "parameddygol"
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> From: Roberts, Nia
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, February 26, 2008 10:34 AM
> Subject: Re: paramedic
>
>
>
>
> Parafeddyg a pharafeddygol yw'r term ers ache o'n i'n meddwl!
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Osian Rhys
> Sent: 26 February 2008 10:24
> To: [log in to unmask]
> Subject: paramedic
>
>
>
> Bore da gyfeillion
>
> Mae TermCymru yn rhoi parameddyg am paramedic, gan nodi yn benodol "nid
> parafeddyg" (ond dim ond statws 4). Oes rhywun yn gwybod yr hanes tu ôl i
> hyn? Mae parafeddyg yn ennill yn rhwydd mewn gwglfrwydr, ac i fi dyna sy'n
> swnio'n naturiol (bron y dwedwn i fod parameddyg yn swnio'n annaturiol).
> Felly dim ond holi barn y cylch. Newydd checkio Bruce a parameddyg sydd
> yno
> hefyd, a paramilwrol (parafilwrol ddwedwn i), felly mae'n debyg bod
> cytundeb
> ar hyn?
>
> Diolch
>
> Osian
>
>
>
> ******************************************************************
>
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and
> intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
> on the following address:
>
> [log in to unmask]
>
>
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>
> [log in to unmask]
>
> *******************************************************************
>
> ________________________________
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.1/1298 - Release Date:
> 25/02/2008
> 20:45
>
>
>
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.1/1298 - Release Date: 25/02/2008
20:45
|