O ddiddordeb o bosibl yn dilyn syniad Huw Tegid...
Mae fy MA (146 tudalen, dros 35 000 o eiriau) yn dilyn helynt Central
Trains Ltd, North West Regional Railways, Safeways a'r UK Passport Agency
am eu camgyfieithu i'r Gymraeg yn Aberystwyth, Bangor, Caernarfon,
Casnewydd a Llanfairpwll.
Bum yn gohebu a hwy am gyfnod o bedair blynedd ar y mater a cheir copiau
o'n llythyrau, lluniau o'u harwyddion/deunyddiau gwallus a phethau
cyffelyb.
Os oes gan unrhywun ddiddordeb mae croeso iddyn nhw gysylltu a mi.
Fel rhan o'r ymatebion a gefais fel esgus oedd y perl yma:
"You must appreciate there is a difference between Northern and Southern
Welsh and Ancient [sic.] and Modern Welsh"
- hyn am ddiffygion ieithyddol yng ngorsaf reilffordd Llanfairpwllgwyngyll.
Hwyl,
Sion
|