Gan mai "turtles and doves" yw'r ateb, dydw i ddim yn meddwl bod y
"clyfrwch" yn fwriadol. Dydw i ddim yn gweld unrhyw glyfrwch yn yr ateb
anghywir "donkeys and sparrows", a 'dyw'r cysylltiad rhwng "pigs and
pigeons" ddim yn llawer mwy na chyflythreniad. Rwy'n credu ein bod ni'n
ceisio rhesymu'r atebion yn ddiangen oherwydd y cyd-ddigwyddiad bod
cysylltiad arall rhwng y ddau anifail yn yr ateb cywir.
Steffan
ON: Mae un wefan ar Google yn awgrymu "a wordcount of translators".
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 15 February 2008 13:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Pigeons/doves
Yn bendant, felly, 'does dim pwynt cyfieithu'r "doves" a "pigeons", gan y
bydd y rhaid wrth gymain o wybodaeth a ni gan y plant, er mwyn troi enwau'r
anifeiliaid yn ol i'r Saesneg i chwilio amdanynt. Dw i'n amau y bydd yr un
peth yn wir yn achos sawl cwestiwn arall.
EFALLAI gellid cael "getawe" efo rhywbeth fel hyn:
Enw ar gyfer grwpiau mawr o ba anifeiliad yw'r gair Saesneg 'dule'?
Gellid wedyn cyfieithu enwau'r anifeiliad a rhoi'r Saesneg ar gyfer y rhai
amheus mewn cromfachau, er bod cyfieithu'n colli holl "clyfrwch" y parau.
Gas gen i feddwl pa bethau eraill sydd gennych yno, ond mae rhaid ystyried y
cyfan o safbwynt y plant bydd yn yn eu darllen, nid o safbwynt cyfieithu
gair am air yn unig.
Ann
----- Original Message -----
From: Ceri Skinner
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, February 15, 2008 12:58 PM
Subject: Re: Pigeons/doves
Dwi'n cytuno'n llwyr! Efallai y dylwn i roi rhywfaint o'r cyd-destun sydd y
tu ôl i gyfieithu hwn hefyd...
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol (gydag un o adrannau'r Cynulliad) newydd brynu
set o adnoddau electronig gan gwmni allanol, gan gynnwys "llyfrau" ar-lein
fel gwyddoniaduron, almanacau, llyfrau cyfeiriol ayb, er mwyn i lyfrgelloedd
eraill yng Nghymru gael mynediad atynt am ddim. Fel rhan o'u gwefan (a chyn
cyrraedd y "llyfrau"), mae ganddyn nhw set o adnoddau sy'n helpu pobl i
ddefnyddio'r gwasanaeth, gan gynnwys cwis i blant sy'n eu dysgu i ddod o hyd
i wybodaeth benodol trwy chwilio ar draws y llyfrau i gyd. Y syniad yw bod y
plant yn tynnu rhai geiriau allan o'r cwestiwn ac yn eu bwydo i mewn i'r
peiriant chwilio er mwyn cael yr ateb cywir. Er bod tipyn o wybodaeth am
Gymru yno, does dim llyfrau cyfrwng Cymraeg. Does dim byd y medrwn ni ei
wneud am hynny (ond gobeithio y byddan nhw'n trefnu'r hawliau a chael
trwydded i gynnwys llyfrau Cymraeg yn y dyfodol), ond gan ein bod ni am
roi'r adnoddau hyn i bawb ar draws Cymru, mae angen iddyn nhw fod yn
ddwyieithog. Fodd bynnag, dwi wedi esbonio i'r cwmni erbyn hyn ei fod yn
anodd cyfieithu rhywbeth o'r fath, a gofyn a fyddai modd cynnwys rhai
cwestiyanu, o leiaf, sy'n benodol am Gymru.
Ymddiheuriadau am natur hirwyntog hwn - ond dyna'r cefndir y tu ôl i ofyn fy
nghwestiwn gwreiddiol ddoe!
Ann Corkett wrote:
Ond beth yn y byd yw pwynt gofyn cwestiwn ynghylch y gair "dule" (nad oedd
hyd yn oed Bruce yn gwybod yr ateb iddo) i blant o Gymry (neu i unrhyw blant
o ran hynny)? Allech chi ddim cyfieithu "dule" a dod o hyd i air Cymraeg
sy'n gwneud y tro ar gyfer crwbanod a cholomennod. Os oes rhaid gofyn
cwestiynau fel hyn, gwell cael caniatad y cwmni i ofyn i aelodau'r cylch
awgrymu cwestiynau Cymraeg a Chymreig! Mae angen rhywun i egluro wrthynt
mai "localisation" sydd ei angen, nid cyfieithu.
Ann
----- Original Message -----
From: Ceri Skinner
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, February 15, 2008 11:21 AM
Subject: Re: Pigeons/doves
Dwi ddim yn hollol siŵr eto! A bod yn onest, mae'r holl gwis yn boen - mae'n
gofyn chwilio adnoddau ar-lein, ac mae pob un o'r adnoddau'n Saesneg beth
bynnag. Felly bob tro dwi'n cyfieithu brawdded i'w chwilio, dwi hefyd yn
gorfod cadw'r gwreiddiol mewn cromfachau er mwyn i'r disgybl wybod pa dermau
i'w defnyddio. Grrr! Dwi'n hanner meddwl gofyn i'r cwmni newid y cwestiwn am
un newydd sy'n gwneud mwy o synnwyr yn y ddwy iaith.
Yr hyn sydd gen i hyd yn hyn yw:
"Dule" [mewn print bras am mai dyma'r term bydd rhaid mynd ar ei ôl] yw'r
enw torfol ar ba anifeiliaid?
Asynnod ac adar y to (sparrows)
Crwbanod a Cholomennod (doves)
Ysguthanod (pigeons) a moch [gyda'r enwau gwreiddiol mewn cromfachau am mai
adnoddau Saesneg y'n nhw i gyd, felly mae'n bosib na fydd llawer o blant yn
gallu cyfateb yr enw Cymraeg fan hyn â'r enw Saesneg fydd yn ymddangos yn yr
adnoddau sy'n cynnwys yr ateb cywir].
Mae 'na ddeg cwis fel hyn, a deg cwestiwn i bob un, felly dwi'n rhagweld y
bydd gen i dipyn o ben tost (a llawer llai o amynedd!) erbyn gorffen!
GERAINT LOVGREEN wrote:
Ond sut wyt ti'n mynd i gyfieithu'r cwestiwn? ? Mae o'n anghyfieithiadwy yn
dydi (i unrhyw iaith!)
----- Original Message ----- From: "Ceri Skinner" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 15, 2008 9:24 AM
Subject: Re: Pigeons/doves
Diolch yn fawr, bawb.
Mary Jones wrote:
Ceri
YSguthan/od yw pidgeon, colomen(nod)yw dove.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ceri Skinner
Sent: 14 February 2008 15:32
To: [log in to unmask]
Subject: Pigeons/doves
Oes unrhyw un yn gwybod am ffordd o wahaniaethu rhwng colomennod a
cholomennod os gwelwch yn dda?
Dwi wrthi'n cyfieithu cwis, ac mae un o'r cwestiynau'n rhoi dewis o "turtles
and doves" neu "pigeons and pigs" fel ateb.
Diolch
Ceri
--
Ceri Skinner
Swyddog Prosiect CyMAL | CyMAL Project Officer
Adran Gwasanaethau Casgliadau | Department of Collection Services
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion | Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU | SY23 3BU
01970 632472 [log in to unmask]
--
Ceri Skinner
Swyddog Prosiect CyMAL | CyMAL Project Officer
Adran Gwasanaethau Casgliadau | Department of Collection Services
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion | Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU | SY23 3BU
01970 632472 [log in to unmask]
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.20.6/1280 - Release Date: 15/02/2008
09:00
--
Ceri Skinner
Swyddog Prosiect CyMAL | CyMAL Project Officer
Adran Gwasanaethau Casgliadau | Department of Collection Services
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion | Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU | SY23 3BU
01970 632472 [log in to unmask]
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.20.6/1280 - Release Date: 15/02/2008
09:00
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|