On Wed, Feb 27, 2008 at 03:10:16PM -0000, GERAINT LOVGREEN wrote:
> Dwi'n deall yn iawn nad yw Pegwn y Gogledd yr un peth a'r pegwn magnetig,
> ond yr un gair ydan nhw yn Saesneg a does neb yn cael anhawster efo hynny.
Fel arfer y saeson sy'n brolio fod ganddyn nhw ddewis o eiriau
i'w defnyddio mewn cyd-destunnau gwahanol (a rhan fwyaf o rheiny
yn eiriau benthyg).
Dyma enghraifft lle mae'r Gymraeg yn gallu gwneud defnydd o'r geiriau
benthyg. Mae'n osgoi gorfod dweud pethau fel
'pegwn daearyddol y gogledd'
'pegwn magnetig y gogledd'
sef yr hyn sydd rhaid dweud yn saesneg er mwyn osgoi amwysedd.
> Ac mae geiriau fel pegyniad, pegynedd a pegyndyniad yng Ngeiriadur y
> Brifysgol ac yn bodoli ers 1858.
Dyw'r ffaith iddyn nhw cael eu cofnodi yn 1858 ddim yn golygu eu bod
yn cael eu defnyddio yn 2008, nac yn 1988 pan o'n i'n cael gwersi
Ffiseg (a wedi eu safoni cryn dipyn cyn hynny?)
Mae yna lot fawr o eiriau rhyfedd a dieithr yn cael eu cofrestru yng
ngheiriaduron y 19G, mewn gloddest o fathiadau chwareus, ond ychydig
iawn sydd yn ddefnyddiol mewn Cymraeg modern.
|