Helo,
Dau gwestiwn os gwelwch yn dda. Diolch o flaen llaw.
1 Mae gen i "Vocational Qualification reform" a "National Occupational
Standards" yn yr un frawddeg a gweld bod Vocational a Occupational ill dau
yn rhoi "Galwedigaethol" yn y Bruce. Oes rhn. yn medru cynnig rhth. gwell?
2 Yn yr un ddogfen cyfeirir at wahanol gyrff, cwangoau am y mwyafrif. Oes
yw'r corff yng Nghymru digon hawdd rhoi'r enw, e.e. WAG = LlCC. Fy
ngwestiwn yw beth am y rhai tu allan i Gymru yn arbennig rhai heb enwau
Cymraeg. Ai bathu, e.e. Skills for Justice = Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder,
ac yna rhoi'r Saesneg ar ei ol mewn cromfachau, ynteu ei adael fel ag y
mae? Neu gadael y peth yn Saesneg, e.e. Lantra a Scottish Enterprise ?
Byddaf yn gwglo p'run bynnag rhag ofn bod dolen Gymraeg ar eu safleoedd
gwe. En passant, ai "dolen" ynteu "linc"? Rhaid cyfaddef fod yr olaf yn
creu iasau i lawr fy nghefn pan y'i darllenaf ar safle we y Cynulliad.
Hwyl o Wlad Pwyl,
Sion
|