Rwy'n teimlo bod hepgor y terfyniad yn gallach fyth yn Gymraeg nag yn
Saesneg, am y rhesymau sydd wedi eu trafod eisoes.
(Ac wrth gwrs, yn Saesneg, rhif a therfyniad yw mwyafrif y trefnolion, felly
mae "27th" yn cyfleu "twenty-seventh" yn iawn. Yn Gymraeg, ar y llaw arall,
baswn i'n tueddu i ddefnyddio "27ain", er mai nid yr "ain" sy'n newid y rhif
yn drefnolyn.)
Steffan
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenllian Mair
Williams
Sent: 04 December 2007 13:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 11fed/11eg
Diolch i bawb am yr ymateb.
Roeddwn i'n ymwybodol ei fod yn mynd i ymddangos fel cwestiwn gwirion i rai!
Y broblem ydi y byddwn i'n rhoi unfed ar ddeg yn reddfol wrth ysgrifennu,
ond yn dweud unarddegfed ar lafar (ond byth un deg unfed!), felly roeddwn i
wedi drysu braidd.
Faint ohonoch chi sy'n hepgor y fed/eg wrth nodi dyddiadau erbyn hyn? Mae
o'n fwy cyffredin i nodi'r rhif yn unig yn y Saesneg yn tydi, felly yda
chi'n dilyn yr un arfer wrth gyfieithu?
Gwenllian
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|