On 01/12/2007, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
> 'Dyn ni wrthi'n golygu'r papur bro ac mae pob ysgol yn y fro yn cyfeirio at
> "Operation Christmas Child" yn Saesneg. Un cyfeiriad sydd ar y we, gan
> Ysgol Cwm-y-Glo, at "ymgyrch Plentyn y Nadolig". A oes 'na unrhyw reswm
> heblaw diffyg dychymyg pam na chyfieithir y teitl?
Er gwybodaeth, mae Operation Christmas Child yn frand rhyngwladol i'r
elusen Samaritan's Purse*, ac yn nod masnach mewn sawl gwlad.
Gweler http://www.ipo.gov.uk/ohim?ohimnum=E2624922 ac
http://www.ipo.gov.uk/ohim?ohimnum=E2624484
Rhys
* er arbed pawb y bore ma, mi wna i gadw i fi fy hun fy nheimladau
personol am yr elusen honno...
|