Pysgod marw sy'n mynd gyda'r llif. O ymaddasu ormod at chwiwiau'r oes,
hawdd iawn y pontiem y ffin rhwng Cymraeg gwael a Saesneg gwael: byddem yn
tlodi ac yn tanseilio ein hiaith. Ni chredaf fod "gwneud" yn peri unrhyw
anhawster i blant, waeth sut yr yngenir y gair hwnnw ar lafar.
|