Dw i ddim yn siwr a yw 'ymarferion' yn hollol gywir chwaith. Mae cefnder i
mi'n blismon yng Nghaerdydd ac roedd e'n sôn yn ddiweddar fod angen iddo
ddechrau 'acting up' cyn bo hir er mwyn cael dyrchafiad. Fel deallais i'r
term, bod yn rhyw fath o 'sarsiant gweithredol' yw'r ystyr, sef gwnued
gwaith sarsiant ond heb gael y streips ar ei fraich - sydd ychydig bach yn
wahanol i 'ymarfer' bod yn sarsiant. Efallai gall John neu Bet fy nghywiro
os ydw i wedi camddeall, ond rwy'n cerdu taw awgrym Sylvia, sef 'ysgywddo
dyletswyddau uwch' sy'n cyfleu'r ystyr orau.
Hg
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 04 October 2007 12:38
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: acting up
Ond dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol go
iawn, nachdyn? *Ymarferion* yn delio â senarios gwirioneddol neu ddychmygol
sydd yma.
Yn y cyd-destun hwnnw faswn i'n meddwl y bysa "ymarferion dyletswyddau uwch"
neu rywbeth felly yn cyfleu'r peth.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, October 04, 2007 11:59 AM
Subject: Re: acting up
Sian Roberts wrote:
> Unrhyw syniad am "acting up"? Dyma'r cyd-destun:
>
> ... senior managers who are being “groomed” for chief executive positions
> in the health service. As part of the programme, they undertake exercises
> to deal with real or imaginary scenarios which they would have to deal
> with at that level.
>
> Dyma enghraifft: "You will benefit from having had access to development
> roles and ‘acting up’ projects."
>
>
> Fyddai rhywbeth fel "gweithredu'n uwch" yn cyfleu'r ystyr?
Daethom ar draws yr ymadrodd hwn yn ddiweddar ac os dw i'n cofio'n iawn
defnyddiwyd rhywbeth fel 'ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol'. Ond o
edrych ar dy gynnig di efallai byddai 'ysgwyddo cyfrifoldebau uwch' yn well?
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.14.0/1048 - Release Date: 03/10/2007
20:22
|