Mae 'haplogrwp' i'w weld ar wefannau'r BBC a'r Faner Newydd.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 02, 2007 2:10 AM
Subject: Re: haplogroup a transversion
Rwy'n cydweld â haplogrŵp, and dwi ddim mor siŵr am
'trawsnewidiad' am fod
term arall, sef 'transition', yn cyfieithu'n 'trawsnewidiad', ac mae hi'n
hollbwysig gwahaniaethu rhwng 'transition' a 'transversion' yn y cyd-
destun hwn. Felly, o'r ddau opsiwn, mi fyddwn i'n dewis 'trawsfersiwn'.
Mae 'transversion' yn swnio'n reit debyg i 'transposition' (trawsddodiad
neu trawsleoliad) ac felly mae 'trawsddodiad' yn opsiwn arall, er y
byddai'i well gen i sticio hefo 'trawsfersiwn' am ei fod yn llai tebyg o
arwain at gamddealltwriaeth.
Dafydd
On Mon, 1 Oct 2007 13:53:11 +0100, Ann Corkett <[log in to unmask]>
wrote:
>Cawsom neges heddiw gan ymgeisydd ar gyfer Aelodaeth Gyflawn Saesneg i
Gymraeg y Gymdeithas trwy Asesiad. Dywedodd "Dw i ddim am godi y
cwestiynau hyn ar 'WTC' gan nad wyf am ddatgelu pwy sydd wedi cyfieithu'r
darn."
>
>Er fy mod i'n arholi asesiadau yn y cyfeiriad arall, nid yw Bruce yn
aelod o'r Bwrdd Arholi mwyach. Wedi ymgymhori a'r prif arholwr, yr
ymgeisydd ac eraill, cytunwyd bod ymddygiad yr ymgeisydd yn hollol
gyfrifol a phroffesiynol, a bod ceisio cyngor fel hyn yr union beth y
byddem yn annog cyfieithwyr ei wneud mewn bywyd go iawn. Cytunwyd y dylwn
anfon yr ymholiad di-enw, ynghyd ag ymateb Bruce, at W-T-C. dyma nhw:
>
>"... mae un o'r darnau'n trafod geneteg ac mae gennyf i gwpl o broblemau
bach o ran geirfa.
>
>"Yr un cyntaf yw a yw 'haplogrw^p' yn dderbyniol ar gyfer 'haplogroup'?
Dw i wedi edrych mewn llyfr o eiddo CBAC sy'n trafod geneteg a does
>dim son am 'haplogroups' ynddo felly mae'n bosibl mai fi yw'r person
cyntaf i ysgrifennu amdanynt yn y Gymraeg.
>
>"Yr ail un yw, a fyddai 'trawsfersiwn' yn dderbyniol ar
gyfer 'transversion?'
>
>"Dyma ddiffiniad o beth yw 'transversion'
>"Transversion: replacement of a purine with a pyrimidine or vice versa."
>
>"Dw i wedi penderfynu defnyddio 'fersiwn' gan obeithio y bydd yr un mor
ddealladwy a chan eu bod yn troi'n 'fersiynau' o'i gilydd.
>
>"Holais [un] sydd a^ doethuriaeth mewn geneteg, ond doedd e ddim wir yn
deall y term gan ei fod mor arbenigol nid oedd erioed wedi dod ar ei
draws!"
>
>Dyma ymateb Bruce:
>haplogrw^p" yn iawn am a wn i.
>
>>a fyddai 'trawsfersiwn' yn dderbyniol ar gyfer 'transversion'
>(Rhoddwyd yr ymadrodd inni'n nes ymlaen, sef "The novel transversion
mutation Rhif x")
>Ymateb Bruce - Efallai'n wir; ond oni wna "trawsnewidiad" y tro'n iawn?
Os yw "trawsnewidiad" yn rhyw benagored, byddai "trawsfersiwn" yn iawn am
a wn i.
>
>
>Os oes gan eraill farn arall, mae angen yr ymateb HEDDIW. A diolch byth
am hynny, neu gallaf weld Bruce yn derbyn rhagor o ymholiadau!
>
>Diolch yn fawr iawn,
>
>Ann
>
>
>
>
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.13.37/1042 - Release Date: 01/10/2007
18:59
|