sgrifennodd Tim Saunders:
> s gwn i beth sydd ar wefan Sain?
Dim ond un enghraifft o "solo album" wela i ar eu gwefan nhw, ac yn
anffodus i'r drafodaeth hon, "albwm unigol" yw'r cyfieithiad.
Serch hynny, ddwedwn i fod y term yn ddealladwy o fewn y cyd-destun.
Ar ôl sôn am grwpiau'r artist yn y gorffennol, a'i sengl ddiweddar,
mae'n dweud:
'Yn ei albwm unigol cyntaf 'Dychwelyd' (Crai CD 101) fe welwn Dan
unwaith eto yn cydweithio gydag un o sylfaenwyr Gorky's Zygotic
Mynci...'
http://www.sainwales.com/sain/product.aspx?productuid=219060 yw'r
ddolen (mae botwm i doglo'r iaith ar ochr chwith y dudalen). Yn
bersonol rwy'n hoffi'r cynnig "albwm unawdol", yng nghyd-destun
cerddoriaeth glasurol (a jazz efallai). Mae'n bosib bod "albwm unigol"
neu "albwm solo" yn well i'r genres eraill.
Hwyl
Rhys
|