> Gall defnyddwyr hefyd gael mynediad at y rhyngrwyd os oes gan y
> pwynt mynediad gysylltedd priodol. Mae gan bwyntiau mynediad WiFi (a
> adwaenir hefyd fel llecynnau chwilboeth) ystod o ryw 100 metr yn
> nodweddiadol.
Lle ti'n meddwl mae Ofcom wedi gael y term rhyfedd ac unigryw hwn?
Ar ol chwilio ar y we fel pawb arall!
Hyd yn oed os yw rhywun am drosi 'hotspot' yn llythrennol, dyw
'chwilboeth' ddim yn gyfeithiad da beth bynnag. Yn y cyd-destun mae
'hot spot' yn deillio o'r un syniad a 'hot desk' a 'hot plug',
technoleg lle mae'n bosib cysylltu/dadgysylltu yn rhwydd heb amharu
ar y cyfrifiadur neu'r system dan sylw.
Mae'n debyg fod 'poethfan' yn cael ei ddefnyddio fel cyfieithiad
llythrennol gan rai, ond dyw hwnna ddim yn esbonio'r ystyr yn glir
iawn chwaith.
|