Diolch i Catrin a Geraint,
O ran rhoi gwybodaeth i'r aelodau os daw rhth cyffelyb yn y dyfodol byddaf
yn sicr o adael i chi wybod yn y ffordd orau trwy'r safle we.
Er gwybodaeth i Catrin, fi ydy Darlithydd mam iaith Gymraeg ym Mhrifysgol
Babyddol Ioan Pawl II yn Lublin, Gwlad Pwyl. Dw i bellach ar fy ail
flwyddyn (a'r olaf) ac yn gweithio tuag at MA a Doethuriaeth mewn
Ieithyddiaeth Gymraeg yma hefyd ar yr un pryd. Hyderaf gallaf gyflwyno'r
MA erbyn diwedd y mis.
Yr haf nesaf, byddaf yn dychwelyd i Gymru/Brydain a chwilio am waith yn y
maes iaith yn y Gymraeg/Saesneg/Ffrangeg. Dyma gyfle felly o roi hysbys
bach yr ydym eisoes yn chwilio am ddarpar Ddarlithydd y Gymraeg yma o Medi
2008 ymlaen.
Nid oedd yr holiadur ynghlwm - mynnwch eich copi gan Jerome ei hun:
[log in to unmask]
|