Mae'n ddrwg gen i am fod cyhyd yn dod yn ol ynghylch hyn. Dyma nodiadau
Bruce ar restr wreiddiol Howard, gyda sylw i nodiadau Huw:
1. Curly waterweed (Lagarosiphon major neu Elodea crispa)
"ffugalaw crych" yn o^l rhestr Cym. Ed. Llwyd, "Planhigion Blodeuog, Conwydd
a Rhedyn".
2. Water lettuce (Pistia stratiotes)
Mae'n ymddangos fod "Nile cabbage" yn enw arall arno. Yn o^l rhestr Ed.
Llwyd, "gwylaeth" a ddefnyddir am "lettuce", felly "gwylaeth y mo^r".
3. Giant Salvinia (Salvinia molesta)
"floating fern" yw hon; byddai "rhedynen ddw^r fawr" yn ddigon da efallai.
4. Green Seafingers (Codium fragile) ?Corn Brau ("Velvet Horn" yw'r enw
Saesneg ar y gwymon brodorol Codium tomentosum, ond un o Siapan yn
wreiddiol yw C. fragile) - Bruce: Pan gyhoeddir rhestr rhywogaethau morol y
CCW, fe restrir "codium fragile" fel hyn:
sea velvet / sea staghorn / spongeweed - gwymon pengrwn brau g. neu melfed
(g) môr
5. Floating Pennywort (Hydrocotyle ranunculoides)
dail-ceiniog arnofiol (Cym. Edward Llwyd)
6. Fanwort (Cabomba carolinana)
tarian dw^r Carolina (Cym. Edward Llwyd) [nid "tarian Y dw^r Carolina"]
7. Lesser Duckweed (Lemna misinscula)
Cytuno a^ Huw mai "Lemna minuscula" yw'r enw. Yn o^l ffynhonnell
"Historical Common Names of Great Plains Plants" ar y We, mae'n eglur mai
cyfystyron fu Lemna minuscula /minuta /minor /minima yn aml iawn. Mae'r
"Washington Flora Checklist" yn so^n am Lemna minor common or lesser
duckweed, water lentil, a Lemna minuta/minima/minuscula, least duckweed. Yn
rhestr Cym. Ed. Llwyd, gwahaniaethir rhwng L.minor (common duckweed - llinad
y dw^r) a L.minuta (least duckweed - llinad bach) a'r ail yw L.minuscula
ma'en debyg gennyf i.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Huw Garan" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, October 18, 2007 2:03 PM
Subject: ATB: Enwau planhigion
Dyma'r rhai sydd wedi eu rhestru ar wefan Llên y Llysiau
(www.llenyllysiau.com), ac un awgrym yn seiliedig ar yr hyn a restrir ar y
wefan.
Floating Pennywort (Hydrocotyle ranunculoides) dail-ceiniog
arnofiol
Lesser Duckweed (Lemna misinscula #) ?Corliniad
(Ll.y.Ll: Llinad bach = least duckweed).
Fanwort (Cabomba carolinana) Tarian y dw^r
Carolina
Curly waterweed (Lagarosiphon major) Ffugalaw Crych
# ai "Lemna minuscula" sydd yma?
Methu dod o hyd i enwau Cymraeg ar y gweddill, ond dw i ddim wedi edrych yn
GyrA eto - mae hwnnw'n rhestri nifer dda o enwau o fyd natur.
Hg
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.15.0/1077 - Release Date: 18/10/2007
09:54
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.15.0/1077 - Release Date: 18/10/2007
09:54
|