Defnyddir 'deilliannau' mewn cyd-destunau technegol, a 'canlyniadau'
mewn cyweiriau symlach, lle nad oes beryg cysymgu gyda 'results'.
Delyth
Ysgrifennodd H.K.Smith:
> Ffrwyth project? Felly, 'Nod a ffrwyth y project'?
>
> Helen
>
> Ceri Skinner wrote:
>
>> Help! A oes term cydnabyddedig ar gael ar gyfer "deliverables" os
>> gwelwch yn dda? Mae hwn wedi achosi penbleth i mi sawl tro yn y
>> gorffennol (dwi erioed wedi llwyddo setlo'n hapus ar ateb chwaith),
>> ond mae rhywun yn y gwaith wedi gofyn i mi gyfieithu darn ar frys
>> nawr, sy'n cynnwys y gair unwaith eto. Dwi'n gweld o'r archifau i'r
>> cwestiwn godi sbel yn ôl, ond fedra' i ddim dod o hyd i ateb.
>>
>> Y cyd-destun, gyda llaw, yw "Project objective and /deliverables/".
>>
>> Diolch yn fawr
>> Ceri
>> **
>>
>> --
>> Ceri Skinner
>>
>> Swyddog Prosiect CyMAL | CyMAL Project Officer
>> Adran Gwasanaethau Casgliadau | Department of Collection Services
>> Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
>> Aberystwyth, Ceredigion | Aberystwyth, Ceredigion
>> SY23 3BU | SY23 3BU
>>
>> 01970 632472 [log in to unmask]
>>
>
>
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University
email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|