Os llwyddwyd i sganio'r tudalen heb esgeuluso unrhyw wallau, dyma'r hyn sydd
gan "A Study of Breconshire Place-names", Richard Morgan ac R. F. Peter
Powell, "Welsh heritage Series No. 9" Gwasg Carreg Gwalch, 1999:
"Buckland: Bychlyd SO 1321
"lech bychlyt l2thC, (well under) Boghlek c.1234-5, ~ Bochelet c.1234,
(forest of) Bogheled 1482, Bighlyd 1589-90, Bughled 1600-7, Bughlyd, Bighled
1595, Bucklond 1626, Buckland House 1798
"For many years, during its occupancy by the British Legion, the hall was
known as Crosfield House, but today it has reverted to Buckland Hall. Mynydd
Buckland 1832 is now Buckland Hill. Probably W[elsh] bwch, 'buck, he-goat,
roe-buck', and llyd, an adj. usually added to a noun; it may mean 'area
abounding with bucks'. The -w- of bwch changes to the 'obscure' vowel y by a
process called 'vowel-affection' when it is combined with llyd. Professor
J.E. Lloyd showed that the west gate of Tre-tw^r castle was called Porth
Bychlyd (Porth Boket c.1230-40). The modern sp[elling] Buckland is very
deceiving and probably arose through association with E[nglish] buck, very
likely in the knowledge that it meant the same as bwch, and -llyd was mixed
up with E[nglish] land.
"An alternative n[ame] for Buckland is sometimes said to be Gwaunygeifr,
'the goats' moor', but this is a distinct place in Llan-y-wern parish."
Dyma sylwadau Bruce:
Yr oedd "Bychlyd" efallai'n enw personol. Llygriad Seisnig diweddarach yw
"Buckland". Yr oedd "Llech Bychlyd" yn enw ar faen a saif neu a safai ar y
mynydd yno, felly byddai'n ddiogel tybio mai "Mynydd Bychlyd" oedd yr enw
Cymraeg, a aeth erbyn y 19eg ganrif yn "Mynydd Buckland" ac erbyn heddiw'n
"Buckland Hill". Ni ddylid newid enw'r Plas (Buckland Hall). Os oes yno
bentref, yna "Pentref Bychlyd" y dylai fod. Os oes angen enw ar ardal,
mae'r
"Forest of Bogheled" 1482 yn awgrymu "Coed Bychlyd".
Yn ol "Welsh Administrative and Territorial Units", Melville Richards, mae
"Buckland alias Gwaunygeifr" yn faenor yn Llansanffraid/Llanddeti, Sir
Frycheiniog. Mae'n amlwg nad yw'r un lle a^'r Buckland dan sylw.
Ann (y teipydd) a Bruce
----- Original Message -----
From: "Menna Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, September 24, 2007 12:48 PM
Subject: Re: Buckland Hill
Nid yw Buckland yn ymddangos ar restr swyddogol Powys, felly nid oes enw
Cymraeg amdano hyd y gwyddom ni.
Menna
----- Original Message -----
From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
Date: Monday, September 24, 2007 12:15
Subject: Buckland Hill
To: [log in to unmask]
> A oes enw Cymraeg am Buckland Hill ger pentref Bwlch ym Mannau
> Brycheiniog.Yn GyrA ceir Gwaun y Geifr am Buckland ond dim sôn am
> Buckland Hill. Ai'r un lle yw hwn?
> Bryn Gwaun y Geifr?
> Hyd y gwela i, does dim byd yn y Gazetteer nac yn Enwau Cymru a
> does dim byd yn dod lan wrth
> Wglo chwaith.
> Tipyn o sôn am westy Buckland Hall ar y we.
>
>
> Diolch
> Siân
>
-----------------------------------------
Cyngor Sir Powys County Council
www.powys.gov.uk
Mae'r e bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys
gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad
ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a
dylech gysylltu gyda Cyngor Sir Powys ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud gyda busnes swyddogol Cyngor
Sir Powys yn bersonol i'r awdur ac nid yw'n awdurdodedig gan y
Cyngor.
This e mail and any attachments are confidential and intended for
the named recipient only. The content may contain privileged
information. If it has reached you by mistake, you should not copy,
distribute or show the content to anyone but should contact Powys
County Council at once.
Any content that is not pertinent to Powys County Council business
is personal to the author, and is not necessarily the view of the
Council.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.13.30/1025 - Release Date: 23/09/2007
13:53
|