Mae sawl problem yn codi fan hyn:
Y ffordd Gymraeg naturiol o fynegi '125 years' yw 'canrif a chwarter'. Yr
ail ddewis yw '125 o flynyddoedd'. Ar logo fel hwn, does dim lle i'r holl
eiriau hynny oni bai bod y cwsmer yn penderfynu rhoi:
125
years
o flynyddoedd
Os yw'n gwrthod neu'n methu gwneud hynny, byddai
125
mlynedd years
yn dderbyniol er bod 'canrif a phum mlynedd ar hugain' yn ffurf ddigon
anghymreig - a 'canrif a hanner namyn pum mlynedd ar hugain' yn waeth byth!
Ond o roi'r Gymraeg yn ail, mae'r toriad sy'n digwydd wrth roi'r gair
Saesneg 'years' rhwng y '125' a'r gair 'mlynedd' yn golygu bod golwg go
ryfedd ar y treiglad:
125
years mlynedd
Gwell gen i 'o flynyddoedd' ar linell ar wahân, ond fe all hynny achosi
trafferthion i'r dylunydd o ran gweddill y testun ar y papur pennawd. Os oes
symbol neu doriad o ryw fath rhwng 'years' a 'blynedd/mlynedd', e.e years ¦
mlynedd, efallai y byddai hynny'n golygu bod y rheswm dros y treiglad yn
haws ei 'weld' a'i dderbyn.
Mae hwn yn un o'r cwestiynau lle mae rhywun yn sicr o feirniadu unrhyw air
unigol a roir am 'years'. Y cwestiwn i'w ofyn i'r beirniad wedyn yw 'Beth
wnelech chi o fewn y cyfyngiadau hyn?'
Berwyn
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, September 24, 2007 8:48 AM
Subject: 125 blynedd
Mae un o sefydliadau addysg uwch Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 2008, ar
ôl cael ei sefydlu ym 1883.
Mae yna logo sy'n dweud:
"1883-2008
125
years blynedd"
Oes yna ffurf ar y rhif 125 sy'n caniatáu 'blynedd' heb dreiglad ar ei
hôl, neu a ddylen nhw fod wedi dweud '125 mlynedd'?
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.13.30/1025 - Release Date: 23/09/2007
13:53
|