>
> Breadcrumb trail
>
> Just below the banner is the breadcrumb trail so that you can see where
> that page is located within the greater website
Mae hwn yn dod stori Hansel a Gretel wrth gwrs, ac ar gyfer
yr un pwrpas, dangos y llwybr 'nol gartref' neu i hafan/brif
dudalen y wefan.
Dwi'n credu fod 'llwybr briwsion' yn fwy addas na trywydd. Mae
trywydd yn awgrymu gorfod chwilio am rywbeth sydd ddim yn amlwg (fel
yn y stori) er mwyn canfod y ffordd, tra mai bwriad llwybr yw dangos
rhywbeth yn amlwg a bwriadol. Yr ail ystyr yw bwriad llwybr ar wefan
hefyd.
Dwi'n sylwi fod gwefan y Cynulliad yn osgoi cyfieithu'r term, ac yn
ei ddisgrifio fel "O gam i gam (eich lleoliad ar y wefan)". Mae hyn
yn gweithio'n iawn am ei fod ar dudalen sy'n disgrifio sut i lywio'r
wefan. Falle dyw e ddim mor dda ar gyfer term lle fod rhaid deall yr
ystyr tu allan i'w gyd-destun.
|