Diolch Berwyn
Dw i'n meddwl bod "Mae isie/angen dŵr ar y corff" yn cyfleu'r cyflwr
yn dda.
Dydw i ddim mor siwr am "crimp" - mae hwnnw'n cyfleu rhywbeth hollol
sych fel deilen grin neu ddarn o dost i mi - fel rhyw fath o gorff
sydd wedi'i gadw mewn mawn (?) am ganrifoedd! .
Mae ceg rhywun yn gallu bod yn grimp ond dw i ddim yn siwr am y corff
cyfan.
Mae'r drafodaeth ar maes-e yn parhau gyda llaw!
On 26 Jul 2007, at 08:18, Berwyn Jones wrote:
> 'mae isie/angen dwr ar fy nghorff i', 'mae 'nghorff i'n (teimlo'n)
> sych/grimp i gyd' ...
>
> O feddwl, efallai mai 'crimp' fyddai'r gair gorau yn y cyd-destun yma.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Ann Wiliam"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, July 25, 2007 11:09 PM
> Subject: Re: dehydrated
>
>
> Wn i ddim beth yw'r cyd-destun ond yn ol y Termau Meddygol
> "hadhydradedig"
> neu " dehydredig". Wedi darllen y sylwadau ar maes-e cyn gweld y
> rhybudd!
> Tueddu i gytuno â rhai o'r sylwadau gan nad ydy'r un o'r ddau yn
> swnio'n
> naturiol iawn.
> Ann
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.19/918 - Release Date:
> 25/07/2007 14:55
|