O'n i'n eitha hoffi "morgreigio", cynnig Bruce.
----- Original Message -----
From: "Non" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 17, 2007 12:50 PM
Subject: Re: Coasteering
Wy ddim yn credu dylid cynnwys cerdded y glannau; mae ynny'n golygu'r llwybr
uwchben i mi. Fel dd'wedes di, Dafydd, ar lefel y môr mae'r bobol yn
crwydro/trafyrsio/sgrialu, a hynny'n bennaf i gyrraedd at un graig fawr ar
waelod clogyn er mwyn cael neidio oddi arni a gorau po fwya'r tonnau. Swn
i'n credu bod cyfieithiad yn cynnwys 'craig' neu 'glogwyn' yn ddigon agos
ati, er bod 'Arfordira' yn saffach.
Non
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 17, 2007 12:45 PM
Subject: Re: Coasteering
>> Mae ystyr 'Arfordira' yn amlwg, os yw rhywun yn cyfieithu Coasteering yn
>> llythrennol yn eu pen gynta'. Beth am Glogwyna? Creiglamu?!
>
> Mae arfordira yn derm ymbarel am nifer o weithgareddau unigol
> sy'n cael ei gwneud o fewn un 'taith'. Felly mae'n well cadw'r
> disgrifiadau unigol ar wahan e.e. dringo clogwyni, nofio, cerdded
> glannau.
>
>> A fyddai disgrifiad mwy llac yn addas? e.e. 'Camp y Creigiau', 'Sgrialu
>> ar
>> Glogwyni', 'Herio'r Heli' neu rywbeth llawer mwy gwreiddiol, yn ymwneud
>> ag
>> ogofau a smyglwyr neu'r adar drycin...
>
> Mae yna dudalen ar wefan cyngor Gwynedd yn son am 'Her yr Arfordir'
> sydd yn enw da ar gyfer sialens/cystadlaeuaeth ond yn amwys
> fel disgrifiad o weithgaredd sydd a diffiniad penodol.
>
>
|