4. "dyfyrio" swn i'n ddweud - Pencader - neu efallai ddylanwad mam
o'r Cei Newydd.
Mae difyrio a dyfyrio "ar lafar yn y Deau" yn ôl GPC.
Siân
On 18 Jul 2007, at 10:33, Mary Jones wrote:
> 1. Croen ei thin hi ar ei thalcen = Wedi dod ma's o'r gwely yr
> ochor chwith;
> yn grac
>
> 2. Llyncu'n grwn = Llyncu rhywbeth yn gyfan
>
> 3. Cachgi bwm = Bumble bee
>
> 4. Difyrio yw'r ynganiad, yn hytrach na dyfyrio = Rhoi stw^r i rywun
>
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sion
> Williams
> Sent: 17 July 2007 11:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Caryl Lewis 2
>
> Annwyl Gyfeillion,
>
> Diolch am eich cymorth gyda Charyl Lewis. Dyma rai pethau a erys o'r
> gwaith Ffec Tan. Eich syniadau plis er fod y cyntaf i weld yn rhy
> amlwg.
>
> 1 Oedd Mari a+ chroen ei thin ar ei thaclen
>
> 2 llyncu'n grwn
>
> 3 cach gi bwn. Beth ydy bwn?
>
> 4 dyfyrio - Cyd destun ydy: pan fyddai M yn crio wedyn byddai ei
> mam yn
> dod draw a sniffian o'i hamgylch cyn ei dyfyrio am ddwyno ei napi
> mor aml.
>
> Diolch yn fawr.
>
> Sion
>
> --
> This message has been scanned for viruses and
> dangerous content by SAQNET SpamAlizer www.saq.co.uk, and is
> believed to be clean.
|