> A oes unrhyw yn gwybod am derm? Maes chwaraeon sydd ar wefan Cyngor Chwaraeon Cymru ond teimlaf fod hwn yn rhy gyffredinol.
> A fyddai cae chwaraeon pob tywydd yn iawn - braidd yn hirwyntog ond efallai'n esbonio diben y maes chwarae arbennig hwn?
Mae Astroturf yn gwmni/nod masnach a felly dyw e ddim yn cael ei
gyfieithu os mai dyna y cynnyrch dan sylw. Os oes angen gwneud yn
glir fod defnydd arbennig ar y maes, mi fyddai'n bosib dweud "porfa
artiffisial" (ond wedyn yn saesneg mae fwy o bobl yn dweud
Astroturf lle nad yw'r cynnyrch yn dod o'r cwmni penodol
hynny, yn debyg i Hoover).
|