Cytuno - mae 'swm troedig' yn swnio fel rhywbeth afiach!
'trosedig' yn ddigon dealladwy os ydi 'wedi'i drosi' yn rhy hir i'r blwch.
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 31, 2007 10:08 AM
Subject: Re: converted amount
'Swm wedi'i drosi', 'Swm o'i drosi', 'Swm newydd', 'Troswyd i'?
Blas yr ymadrodd 'ych-a-fi' neu'r ansoddair 'cyfoglyd' sydd i 'troëdig' ar
lafar (gw. td 3610 Geiriadur y Brifysgol).
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 30, 2007 8:06 PM
Subject: converted amount
Tydwi ddim yn hollol gyfforddus â ffurfiau'r ymadrodd hwn yn y Gymraeg.
"Swm troedig" ydi'r agosaf fedrais ffitio i'r blwch ar y sgrin.
Fyddai "swm trosedig" yn haws i bobl ei ddeall?
Oes gan rhywun gynnig gwell - sef am swm o arian ar ôl ei gyfnewid o arian
cyfred un wlad i'r llall.
dafydd
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.11.0/927 - Release Date: 30/07/2007
17:02
|