Wedi mynd yn gyfarwydd, os nad yn hapus, a^ "mums" a "dads" yn y "Daily
Post", ond gwelaf ei fod erbyn hyn yn arfer "tots" hefyd. Onid
newyddiaduriaeth 'dy hyn, ceisio arbed lle a ffitio geiriau bras i'r tudalen
blaen?
Ann
----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 08, 2007 11:36 AM
Subject: Re: Erthygl Dylan Iorwerth
> Dy lith yn gamp - da was llawn ffydd! Rhaid i ti ddal at wneud hyn o hyd
> ac o hyd neu fe fydd hi'n o ddrwg ar bob un yn ein plith.
>
>
> Tim
>
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of David Bullock
> Sent: 08 June 2007 11:27
> To: [log in to unmask]
> Subject: Erthygl Dylan Iorwerth
>
>
> I'r sawl sy heb weld y pwt yn Llais y Sais pa ddydd:
>
> Mae Dyl Ior am i fwy o stwff gael ei ddweud heb i chi roi yr un gair hir
> yn eich llith. Mae modd gwneud hyn wrth gwrs, ond dyw hi ddim yn hawdd
> dweud dim lot sydd o iws heb ryw air bach neu ddau sydd â mwy nag un sill.
>
> Os ca i ddweud mwy....
>
> Caiff Dyl roi trei ar y gamp ei hun, ond fe fydd e'n siŵr o weld cyn hir
> fod yn rhaid i bob iaith dan haul gael hyn a hyn o le er mwyn rhoi gair
> sydd â mwy nag un sill lawr ar y pêj. Mewn iaith fel ein hiaith ni mae'n
> rhaid i ddyn weld nad oes modd i bob peth ym mhob darn o waith fod yn fyr
> o hyd ac o hyd. O dro i dro mae'n rhaid i ddyn gael gair sy'n fwy hir na
> hyn. (Neu fe aiff o'i go cyn i chi droi rownd.)
>
> Bois bach roedd hi'n waith dweud hyd yn oed peth bach fel hyn heb air a
> mwy na dwy sill.
>
> Nawr te, her i chi i gyd, bob un wan jac: oes dyn neu ferch yn eich plith
> a fydd fel fi yn dod o hyd i fodd i greu llith heb gael yr un gair sydd â
> mwy nag un sill, ys gwn i? Dewch, rhowch drei ar y peth. Yn fy marn i,
> chewch chi ddim lot o hwyl a fydd dim lot o bwynt i waith o'r fath gael ei
> ddarllen. Daro! Oes rhaid i eiriau mor anhepgor â 'darllen' fod mor hir
> dwedwch?!
>
> David
> Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor o hyd os hoffech chi helpu.
> http://www.justgiving.com/davidmbullock
> My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is still open to new
> supporters.
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders,
> Tim
> Anfonwyd/Sent: 08 June 2007 10:30
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: Erthygl Dylan Iorwerth
>
> 'Western Mail' bwy ddiwrnod. Dipyn o sôn wedi bod amdani ar Radio Cymru
> ayyb, Dylan yn cael tshup laff (Cymraeg safonol ...?) am jargon
> gyfreithiol.
>
>
> Tim
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Howard Huws
> Sent: 08 June 2007 10:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Erthygl Dylan Iorwerth
>
>
> Maddeuer f'anwybodaeth: ymhle mae'r erthygl? Yn "Golwg"?
>
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.11/838 - Release Date: 07/06/2007
14:21
|