A oes rhywun wedi dod ar draws y "Cyfenter2 Development Partnership"?
Dyfyniad o wefan Llywodraeth y Cynulliad:
Mae Partneriaeth Datblygu Cyfenter2 yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac
arian Ewropeaidd rhaglen Equal. Nod Partneriaeth Datblygu Cyfenter2 yw llywio a datblygu polisļau
ac arferion priff-ffr?d sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y cleient, ac ymateb i egwyddor amrywiaeth -
gan gyrraedd ystod ehangach o entrepreneuriaid, a'u cefnogi wrth iddynt ddechrau, cynnal neu
ddatblygu busnes yng Nghymru.
Hyd y gwela i, ychydig o gyfeiriadau a geir at y fenter yn y Gymraeg ar y we ac mae pob un yn ei
galw'n "Partneriaeth Datblygu Cyfenter2". Byddai "Partneriaeth Ddatblygu Cyfenter2" yn swnio'n fwy
naturiol i mi ond bydd raid cadw at yr hyn sydd 'na, beryg, os nad oes rhywun yn gwybod am
dystiolaeth dros dreiglo'r enw.
Diolch
Siān
|