'Dwi'n meddwl fod 'blaenoriaethu' yn dderbyniol, ond yn bersonol mi fyddwn
wedi dewis 'uwchraddio'.
Bum yn gweithio mewn sefydliad lle 'roeddynt yn dod â phroblemau gyda
chyfarfod rhyw nod arbennig (e.e. nifer y broblemau y gellid eu datrys o
fewn pum munud, neu beth bynnag) i sylw rhyw awdurdod uwch yn yr adroddiad
misol, er mwyn i'r rheini fedru ystyried y mater a phenderfynu os oedd 'na
broblem hefo'r gwasanaeth neu'r gyfundrefn oedd yn delio â'r ffasiwn
broblemau.
Felly i mi mae 'to escalate' yn awgrymu mynd â phroblem i awdurdod uwch.
Ond 'blaenoriaethu' yn eitha teg hefyd, dwi'n meddwl.
Dafydd
On Mon, 18 Jun 2007 09:00:09 +0100, Meleri H. Hughes
<[log in to unmask]> wrote:
>Ar ôl pendroni dros y penwythnos, wedi penderfynu erbyn bore 'ma
defnyddio 'swyddog blaenoriaethu'.
>
>Diolch i bawb
>
>Meleri
>
>
>
>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
>Anfonwyd/Sent: 18 June 2007 08:48
>At/To: [log in to unmask]
>Pwnc/Subject: Re: escalation officer
>
>Ges i drafferth â rhyw feddalwedd ryw dro. Ffonio'r llinell gymorth.
Rhywun yn ceisio datrys y mater dros y ffôn ac yn methu. Galw ar y
goruchwyliwr, hwnnw'n gwneud yr un peth ac yn methu.
>Yna'n dweud 'We will have to escalate the complaint' ac yn trefnu i un
o'u tîm technegol arbenigol ffonio nôl.
>
>Hynny yw, roedd y broblem yn cael ei phasio lan o'r sawl oedd yn ateb y
llinell gymorth i'r goruchwyliwr i'r aelod o'r tîm technegol.
>
>Ond dw i ddim yn gwybod beth fyse'r swyddog yn ei wneud.
>
>Dw i'n cofio mynd â'r plant i Gaerdydd pan oedden nhw'n fach. Roedd
grisiau symudol yn dipyn o nofelti ac, yn un o'r siopau, roedd 'na arwydd
fawr:
>Escalator - Esgaladur. Dyna ges i drwy'r penwythnos wedyn "Gawn ni fynd
ar yr esgaladur?"
>
>Swyddog esgaladu?
>
>Na, dw inne ddim yn meddwl chwaith!
>
>Fyse rhywbeth fel "Swyddog blaenoriaethu" yn cyfleu'r ystyr tybed?
>
>Ar y we ceir: "Unresolved Complaints may be escalated (or 'upgraded') to
a higher level in accordance with the Complaint Escalation Guidelines;" -
Beth am "Swyddog Uwchraddio Problemau/Cwynion"?
>
>-------------------------------------------------------------
>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir
ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig.
Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei
ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar
unwaith.
>Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon
yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
>-------------------------------------------------------------
>This email and any attachments are confidential and intended for the
named recipient only. The content may contain privileged information. If
it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the
content to anyone but should contact the sender at once.
>Any content that is not pertinent to the official business of the
organisation is personal to the author.
>-------------------------------------------------------------
>Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei
bod yn hollol angenrheidiol.
>Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is
absolutely necessary.
>========================================================================
|